|
Hafan > Amdanom ni > Hafan Rhyddid gwybodaeth > Cais RhG
Cynlluniwyd ein Cynllun Cyhoeddi ddarparu gwybodaeth helaeth am ein polisïau, gweithdrefnau ac adroddiadau, a hynny'n rhwydd ac yn gyflym. Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau a restrir ar gael ar y safle hwn, a darperir dolenni er mwyn i chi allu cael gafael arnynt yn rhwydd.
Os nad oes fersiwn ar-lein o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y cynllun cyhoeddi, neu os nad yw'r wybodaeth wedi'i rhestru o gwbl, anfonwch gais ysgrifenedig at:
Freedom of Information/Data Protection Manager,
Parliamentary and Health Service Ombudsman
Millbank Tower
Millbank, London SW1P 4QP
FAX +44 (0)20 7217 4067.
E-mail: foi.officer@ombudsman.org.uk
Wrth ofyn am wybodaeth, fe allai ein ffurflen, fod o ddefnydd i chi, ond fel arall, dylech gynnwys y manylion canlynol:
-
eich enw a'ch cyfeiriad
-
y wybodaeth neu'r dogfennau yr hoffech chi eu gweld
-
y ffordd yr hoffech chi i'r wybodaeth gael ei hanfon atoch (er enghraifft, fel copi caled, dros yr e-bost neu ar ddisg gyfrifiadurol).
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Os yw'r wybodaeth rydych chi ei heisiau ar gael yn rhwydd, er enghraifft, os yw wedi ei rhestru yn y Cynllun Cyhoeddi, rydym yn anelu at ei rhyddhau o fewn ychydig ddyddiau. Fe geir rhai achosion pan fydd yn cymryd ychydig mwy o amser. Mewn achosion o'r fath, ein nod yw rhoi'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Brig
Beth sy'n digwydd os na ellir darparu'r wybodaeth?
Os cedwir gwybodaeth mewn dogfen sydd ar gael dan y Cynllun Cyhoeddi hwn yn ei hôl, nodir y ddogfen yn glir i ddangos o ble tynnwyd y wybodaeth a'r eithriad a ddefnyddiwyd gennym.
Os byddwn yn gwrthod darparu'r cyfan neu ran o'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio wrthych pam i ni wrthod.
Oes rhaid talu am y wybodaeth y byddwch yn ei darparu?
Yn gyffredinol, nid ydym yn bwriadu codi tâl am y wybodaeth a ddarperir dan y Ddeddf. Codir tâl am bapurau Ty'r Cyffredin a ryddheir ar ffurf copi caled gan Y Llyfrfa ac sydd ar gael ganddynt hwy, yn unol â'u polisi prisio hwy.
Os ydych yn gofyn am wybodaeth nad yw ar gael dan y Cynllun, ein nod yw rhyddhau cymaint o wybodaeth â phosib i chi am ddim. Fodd bynnag, os yw casglu neu baratoi'r wybodaeth y gofynnwch amdani yn dreth sylweddol ar ein hamser, fe allen ni godi tâl am y gwaith hwnnw. Os bydd tâl i'w dalu mewn perthynas â'ch cais, byddwn yn gofyn i chi a ydych am barhau â'ch cais cyn i ni ddechrau ar y gwaith. Ni chodir TAW.
Ni chodir unrhyw dâl os ydyn ni'n gwrthod cais am wybodaeth. Ac ni chodir unrhyw dâl am apelio yn erbyn ein penderfyniad i wrthod darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani neu os ydych chi'n apelio yn erbyn y tâl y byddem yn ei godi. Os yw'r wybodaeth eisoes ar gael mewn cyhoeddiad â phris arno, fe roddwn fanylion y cyhoeddiad i chi a dweud wrthych ble i'w gael.
Hawlfraint
Mae'r deunydd ar y safle hwn dan warchodaeth hawlfraint y Goron. Mae'r Ombwdsmon yn awdurdodi ymwelwyr â'r safle i wneud un copi am ddim, trwy lawrlwytho i argraffydd neu gyfrwng storio electronig, magnetig neu optegol, o unrhyw eitem a nodir ar y safle, at ddibenion ymchwil, astudiaeth neu gyfeiriadaeth preifat. Mae unrhyw gopi neu ddefnydd pellach o ddeunyddiau hawlfraint y Goron a nodir ar y safle, mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, yn amodol i dderbyn cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Uned Hawlfraint y Llyfrfa. Dylid anfon ceisiadau at Y Llyfrfa, Yr Uned Hawlfraint, St Clements House, 2-16 Colegate, Norwich, NR3 1BQ (ffacs +44 (0)1603 723000 neu ebost e-mail copyright@hmso.gov.uk).
Brig
|