|
Hafan > Amdanom ni > Hafan Rhyddid gwybodaeth
Daeth Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym ym mis Ionawr 1af 2005. Bwriadwn weithredu mewn modd mor agored a thryloyw â phosibl yn ysbryd y Ddeddf.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gyfraith sy’n rhoi hawl mynediad cyffredinol i'r cyhoedd at wybodaeth gofnodedig a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth a gedwir gan yr Ombwdsmon.
Cyfrifoldeb y Comisiynydd Gwybodaeth yw goruchwylio gweithrediad y Ddeddf ac mae ef yn annibynnol ar y llywodraeth gan adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd.
I gael gwybodaeth fanwl am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ei chwmpas a’ch hawl i gael gwybodaeth, ymwelwch â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Beth yw polisi cyffredinol yr Ombwdsmon ynglŷn â darparu gwybodaeth?
Rydym yn croesawu’r hawl i gael mynediad at wybodaeth fel y’i nodir yn y Ddeddf. Fodd bynnag, mae natur ein gwaith yn golygu casglu toreth o wybodaeth sensitif a chyfrinachol yng nghwrs ein hymchwiliadau. Gallai rhyddhau’r wybodaeth hon achosi niwed gwirioneddol i’r unigolion dan sylw, neu fe allai beryglu’r canlyniad terfynol.
Golyga hyn fod rhaid i ni gydbwyso ein dymuniad i weithredu’n agored â’n dyletswydd i warchod preifatrwydd gwybodaeth bersonol a chyfrinachol arall. Yn yr un modd, mae’n bosib y bydd rhaid i ni ystyried a yw rhyddhau gwybodaeth er budd y cyhoedd. Cydnabyddir y cydbwysedd bregus hwn yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ei hun sydd, er enghraifft, yn datgan yn glir nad yw gwybodaeth a gesglir ar gyfer ymchwiliad, fel arfer, ar gael i neb heblaw’r Ombwdsmon a’i staff.
Nodir ein dull gweithredu yn ein datganiad polisi ar fynediad at wybodaeth.
Sut mae cael gwybodaeth?
Mae ein cynllun cyhoeddi yn esbonio pa wybodaeth y byddwn yn ei rhyddhau i’r cyhoedd a’r nod, pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, yw darparu ffordd rwydd o gael gafael arni.
Brig
|