|
Hafan > Amdanom ni > Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol
Swyddogaeth y Bwrdd yw ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gyflwyno gwasanaethau, polisïau a gweledigaeth strategol y Swyddfa i’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Mae hefyd yn darparu fforwm ar gyfer trafod a chydlynu rhaglenni gwaith sylweddol ac yn darparu arweiniad i’r holl staff sy'n gweithio i’r Swyddfa.
Mae'r Bwrdd yn ysgwyddo cyfrifoldeb penodol dros y canlynol:
- datblygu a chytuno ar y cynllun busnes strategol tair blynedd
- cydlynu a chytuno ar y cynlluniau busnes swyddogaethol blynyddol
- sefydlu fframwaith clir ar gyfer atebolrwydd wrth gyflwyno cynlluniau
- sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi ac yn cael sylw
- cytuno ar ddyraniadau cyllideb lefel uchel
- cytuno ar fframwaith monitro perfformiad priodol
- monitro perfformiad busnes y Swyddfa bob chwarter
- a rhoi ymdeimlad clir a chryf o bwrpas a chyfeiriad i’r staff.
Aelodau’r Bwrdd yw'r Ombwdsmon, sy'n gweithredu fel cadeirydd, y Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu.
Yr Ombwdsmon yn unig sy’n atebol i'r Senedd am benderfyniadau a gweithrediad ei Swyddfa. Mae’r Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu'n atebol yn unigol i'r Ombwdsmon am unrhyw weithredu o fewn eu meysydd cyfrifoldeb hwy.
Fe’u cynhelir yn wythnosol ar gylch cynlluniedig o ddyddiadau wedi’u pennu o flaen llaw. Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd ar ddydd Llun ac eithrio adeg gwyliau cyhoeddus neu pan wneir trefniadau eraill.
Bydd cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar gyfer pob cyfarfod a chyda'r camau gweithredu’n cael eu cofnodi mewn cynllun gweithredu treigl. Bydd y rhain ar gael i’r staff ar y fewnrwyd ynghyd ag unrhyw bapurau’r Bwrdd Gweithredol o fewn pump diwrnod i’r cyfarfod. Efallai na fydd rhai eitemau ar gael pan fo’r wybodaeth yn bersonol neu lle gallai wneud drwg mawr i rediad y Swyddfa.
Adolygir Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol bod chwe mis o fis Hydref 2004.
Hydref 2004
Brig
|