|
Hafan > Amdanom ni > Bwrdd Gweithredol SOSGI
Y Bwrdd Gweithredol, dan arweiniad yr Ombwdsmon, Ann Abraham, yw'r uwch fwrdd gweithredol sy’n gyfrifol am gyflwyno gwaith yr Ombwdsmon. Y tri aelod arall o'r Bwrdd yw:
Ombwdsmon Seneddol y DU ac Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Lloegr
Daeth Ann Abraham yn Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ym mis Tachwedd 2002. Yn rhinwedd ei swydd mae’n aelod o’r Cyngor Tribiwnlysoedd a Chyfiawnder Gweinyddol, Pwyllgor Cyngor Tribiwnlysoedd a Chyfiawnder Gweinyddol Cymru a’r Alban a’r Comisiwn Gweinyddiaeth Leol yn Lloegr.
Roedd Ann yn Gadeirydd Cymdeithas Ombwdsmyn Prydain ac Iwerddon o 2004 tan 2006, ar ôl bod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith rhwng 2001 a 2006. Mae’n dal yn aelod o Bwyllgor Dilysu’r Gymdeithas honno (2006-).
Gynt, Ann oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyfreithiol Cymru a Lloegr o Fedi 1997 i Hydref 2002. Roedd yn aelod o Bwyllgor Wicks (y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus) o fis Ionawr 2000 i fis Hydref 2002 ac yn gyfarwyddwraig anweithredol gyda'r Asiantaeth Budd-daliadau o 1997 i 2001.
Bu Ann yn gweithio i lywodraeth leol o 1975 i 1980, ac o 1980 i 1990 daliodd nifer o swyddi gyda’r Gorfforaeth Tai. O 1991 i 1997 Ann oedd Prif Weithredwraig Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor Ar Bopeth.
Brig
Dirprwy Ombwdsmon
Ymunodd Kathryn Hudson â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar 4 Awst 2008 , ar secondiad o’r Adran Iechyd, ac mae hi’n arwain Timau gweithredol sy’n gyfrifol am ddarparu gwaith achos a gwasanaeth i gwsmeriaid.
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn y Gwasanaeth Prawf ac mewn llywodraeth leol, a gyrhaeddodd ei hanterth pan gafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cyngor Newham, ymunodd Kathryn â’r Adran Iechyd yn 2004 fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Yn y swyddogaeth honno roedd hi ar flaen y gad gyda’r Papur Gwyrdd dylanwadol a gyhoeddwyd yn 2005, Independence, Well-being and Choice, a oedd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Gweithiodd mewn partneriaeth ag arweinwyr gwleidyddol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu’r agenda genedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd oedolion, a amlinellwyd wedyn yn y Papur Gwyn, Our Health, Our Care, Our Say. Yn fwy diweddar mae Kathryn wedi bod ar secondiad yn Barnardo’s, yn cefnogi eu Prif Weithredwr i ddatblygu ei weledigaeth a’i gynllun busnes newydd ar gyfer y mudiad.
Brig
Dirprwy Brif Weithredwr
Ymunodd Bill ag uwch dîm yr Ombwdsmon ym mis Gorffennaf 2003 ac mae’n gyfrifol am yr holl Wasanaethau Adnoddau Corfforaethol, gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol, TG a’r gwasanaethau mewnol eraill a ddarperir. Cyn ymuno â’r swyddfa, roedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau yn y Comisiwn Elusennau, lle'r oedd ganddo gyfrifoldebau tebyg.
Treuliodd Bill ei yrfa gynnar mewn nifer o adrannau'r Gwasanaeth Sifil gan gynnwys Diwydiant a Masnach, Tollau Tramor a Chartref a Chyllid y Wlad. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys TAW, ymchwiliadau yn ymwneud â thollau, archwilio mewnol, polisïau treth, adnoddau dynol a chyllid. Mae hefyd wedi arwain proses Craffu ar Effeithlonrwydd dan law Swyddfa’r Cabinet mewn perthynas â systemau casglu trethi. Mae Bill yn archwilydd mewnol gyda chymwysterau proffesiynol ac mae ganddo gymhwyster cyfrifyddiaeth hefyd. Mae’n aelod allanol o Bwyllgor Archwilio Ofsted a bu gynt yn aelod o Gyngor Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol Llywodraeth Ganol.
Mae Bill yn briod ac mae ganddo ddau o blant. Ar wahân i’w deulu, ei brif ddiddordebau yw chwaraeon o sawl math (pêl-droed yn arbennig a’i frwdfrydedd dros Wolverhampton Wanderers), cyfrifiaduron, garddio a theithio.
Brig
Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu
Ymunodd Philip Aylett ag OSGI fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu – ar secondiad o Swyddfa’r Cabinet – ar 6 Mehefin 2005. Ar 1 Ebrill 2006, cymerodd awenau swydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu, ac ym mis Ebrill 2007, daeth yn Gyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu. Ef sy’n gyfrifol am swyddogaethau ymchwil a pholisi’r Swyddfa. Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu proses rheoli gwybodaeth a medr cyfathrebu mewnol y Swyddfa, a sicrhau agwedd gydlynus tuag at gysylltiadau allanol.
Rhwng 2001 a 2005, bu Philip yn Glerc Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ’r Cyffredin a chyn hynny – ymhlith pethau eraill – bu’n Ymgynghorydd Polisi/Ysgrifennydd y Wasg i’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, ac yn Bennaeth Newyddion yn yr Adran Iechyd.
Brig
|