|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Pwyllgor Archwilio SOSGI
Swyddogaeth Pwyllgor Archwilio Swyddfa’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (SOSGI) yw cefnogi’r Ombwdsmon (fel Swyddog Cyfrifyddu) a Bwrdd SOSGI i fonitro pa mor ddigonol yw systemau rheoli a llywodraethu corfforaethol y Swyddfa trwy:
- gynnig cyngor gwrthrychol ar faterion sy’n ymwneud â risg, trefn reoli a llywodraethu'r sefydliad a sicrwydd cysylltiedig a ddarperir gan y drefn archwilio mewnol ac allanol a phrosesau eraill
- o bryd i’w gilydd, herio penderfyniadau gweithredol mewn modd adeiladol i sicrhau mai’r rhain yw’r gorau posibl a’u bod yn sicrhau gwerth am arian yng ngoleuni’r dystiolaeth sydd ar gael
- ychwanegu gwerth trwy helpu’r Swyddog Cyfrifyddu i sicrhau bod penderfyniadau da wedi cael eu gwneud.
Dyma aelodau’r Pwyllgor Archwilio:
- yr Ombwdsmon (fel Swyddog Cyfrifyddu)
- tri aelod allanol, gydag un ohonynt yn Gadeirydd y Pwyllgor.
Bydd y canlynol yn mynychu’r Pwyllgor Archwilio:
- y Dirprwy Ombwdsmon a’r Dirprwy Brif Weithredwr
- Cyfarwyddwr a/neu Reolwr Aseinio'r Archwilydd Allanol (Swyddfa Archwilio Genedlaethol)
- Pennaeth y gwasanaeth Archwilio Mewnol a/neu’r Rheolwr Archwilio Mewnol
- Pennaeth Cyllid
- Cyfarwyddwyr neu swyddogion eraill yn ôl yr angen i helpu’r Pwyllgor gyda materion penodol.
Yr adran Adnoddau Corfforaethol fydd yn darparu’r gwasanaeth Ysgrifenyddol i’r Pwyllgor Archwilio.
Brig
Bydd gan yr Archwilydd Mewnol a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol fynediad rhydd a chyfrinachol at Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, i gyd-fynd â chyfnodau allweddol yng ngwaith yr Archwilydd Mewnol a'r SAG. Gall y Pwyllgor gyfarfod mwy na phedair gwaith y flwyddyn i drafod materion penodol gyda chytundeb y Cadeirydd, neu ar gais y SAG neu'r gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Y cworwm fydd o leiaf dau aelod o'r Pwyllgor.
O fewn ei swyddogaeth a bennir uchod, bydd y Pwyllgor Archwilio yn cynghori’r Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:
- Polisïau ac arferion rheoli risg ledled SOSGI
- Y Cyfrifon Adnoddau, polisïau ac arfer cyfrifyddu sy’n berthnasol i'r sefydliad (gan gynnwys cydymffurfio â gofynion Cyfrifyddu'r Llywodraeth)
- Cynlluniau’r gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Allanol, gan gynnwys asesu blaenoriaethau a hyrwyddo dealltwriaeth o swyddogaeth archwilio o fewn SOSGI
- Canlyniadau’r gwaith archwilio gan gynnwys: adroddiadau blynyddol, dilynol, cynnydd ac archwilio unigol; a llythyrau rheolaeth
- Sicrwydd gyda golwg ar lywodraethu corfforaethol a ddarperir gan Archwiliadau Mewnol ac Allanol a phrosesau eraill (bydd y Pwyllgor a'i weithgareddau'n cael eu cynnwys yn y Datganiad Rheolaeth Fewnol)
- Cyflawni gwerth am arian gan SOSGI
- Digonolrwydd y systemau sicrhau ansawdd ar gyfer gweithgareddau craidd SOSGI
- Digonolrwydd ymatebion y rheolwyr i faterion a godir gan y drefn Archwilio Mewnol ac Allanol
- Cynnal safonau priodoldeb ym musnes SOSGI
- Penodi Archwilwyr Mewnol
- Monitro cost a pherfformiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Allanol.
Brig
Dylid darparu’r canlynol i'r Pwyllgor Archwilio:
- Strategaeth a chynlluniau'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Allanol (gan gynnwys asesiad o anghenion archwilio a’r cydweithredu arfaethedig rhwng y gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Allanol)
- Adroddiadau cynnydd gan Bennaeth Archwilio Mewnol ar:
- y gwaith a gyflawnwyd ers y cyfarfod diwethaf (gyda chymhariaeth â’r gwaith a gynlluniwyd fel y’i diwygiwyd mewn cytundeb â'r Dirprwy Brif Weithredwr);
- y wybodaeth ddiweddaraf am y cam a gyrhaeddwyd ymhob archwiliad sydd wedi’u cynllunio
-
- canlyniadau gwaith dilynol yn dilyn gweithredu argymhellion archwiliadau
-
- materion allweddol yn codi o waith Archwilio Mewnol yn y cyfnod.
- Adroddiad Blynyddol a barn y Pennaeth Archwilio Mewnol (a fydd yn cynnwys adroddiad, y cytunir arno gyda'r SAG, ar y cydweithrediad rhwng y gwasanaeth Archwilio Mewnol ac Allanol yn ystod y flwyddyn)
- Copïau o holl adroddiadau cyhoeddedig y gwasanaeth Archwilio Mewnol i'w hadolygu a'u hystyried
- Adroddiadau priodol gan aelodau a swyddogion sy’n mynychu ar feysydd sy'n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor gan gynnwys trefniadau risg, sicrhau ansawdd ayb.
- Cyfrifon Adnoddau drafft SOSGI ar gyfer eu hasesu
- Datganiad Rheolaeth Fewnol drafft SOSGI
- Llythyr Rheolaeth yr Archwilydd Allanol
- Cynigion ar gyfer newidiadau i bolisïau cyfrifyddu
- Adroddiad ar unrhyw afreoleidd-dra neu dwyll difrifol a amheuir
- Adroddiad ar unrhyw golledion a thaliadau arbennig
- Cofnodion Bwrdd SOSGI.
Bydd y Pwyllgor Archwilio yn cyflwyno cofnodion ei gyfarfodydd ac adroddiad blynyddol ar ei waith i Fwrdd SOSGI.
Brig
|