|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol
Swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol
Swyddogaeth y Bwrdd yw ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gyflwyno gweledigaeth strategol, polisïau a gwasanaethau'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI) i’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Mae hefyd yn darparu fforwm ar gyfer trafod a chydlynu rhaglenni gwaith sylweddol ac yn darparu arweiniad i’r holl staff sy'n gweithio i’r OSGI.
Mae'r Bwrdd yn ysgwyddo cyfrifoldeb penodol dros y canlynol:
- datblygu a chytuno ar y Cynllun Strategol tair blynedd a’r Cynllun Corfforaethol
- sicrhau cydlynu a chytuno ar y cynlluniau busnes isadrannol blynyddol
- sefydlu fframwaith clir ar gyfer atebolrwydd wrth gyflwyno cynlluniau
- sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi ac yn cael sylw
- cytuno ar ddyraniadau cyllideb lefel uchel
- cytuno ar fframwaith monitro perfformiad priodol
- monitro perfformiad busnes yr OSGI yn fisol
- cytuno ar bolisïau corfforaethol (e.e. polisïau cyflogaeth, polisïau gwaith achos)
- rhoi ymdeimlad clir a chryf o bwrpas a chyfeiriad i’r staff
- cyfathrebu ei benderfyniadau’n effeithiol
Aelodaeth y Bwrdd Gweithredol
Mae’r Bwrdd yn cynnwys yr aelodau canlynol, yr Ombwdsmon, sy'n gweithredu fel cadeirydd, y Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Atebolrwydd
Yr Ombwdsmon yn unig sy’n atebol i'r Senedd am benderfyniadau a gweithrediad ei Swyddfa. Mae’r Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu'n atebol yn unigol i'r Ombwdsmon am unrhyw weithredu o fewn eu meysydd cyfrifoldeb hwy.
Cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol
Cynhelir y rhain bob bythefnos ar gylch cynlluniedig o ddyddiadau wedi’u pennu o flaen llaw. Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd ar ddydd Mawrth ac eithrio adeg gwyliau cyhoeddus neu pan wneir trefniadau eraill. Papurau ar gyfer y Bwrdd Gweithredol
Bydd cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar gyfer pob cyfarfod a chyda'r camau gweithredu’n cael eu cofnodi mewn cynllun gweithredu treigl. Bydd y rhain ar gael i’r staff ar y fewnrwyd ynghyd ag unrhyw bapurau’r Bwrdd Gweithredol o fewn pum niwrnod i’r cyfarfod. Ni fydd eitemau cyfrinachol ar gael.
Cyfathrebu
Caiff negeseuon allweddol eu rhaeadru i reolwyr o fewn dau ddiwrnod i gyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol yn y mis. Bydd disgwyl i reolwyr ddosbarthu’r negeseuon i’w staff o fewn pythefnos o dderbyn y wybodaeth.
Adolygu Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol
Adolygir Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol bod chwe mis o fis Mawrth 2007.
Mawrth 2007
Brig
|