|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Datganiad Llywodraethu
Mae'r datganiad hwn yn nodi ar gyfer ein staff a’n rhanddeiliaid y sail y sefydlwyd Swyddfa’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (SOSGI) arni; y ffordd y caiff ei rheoli a’i llywodraethu; a sut mae’n atebol am yr hyn y mae'n ei wneud.
Mae’r Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (yr Ombwdsmon) yn swydd sy’n cyfuno dwy swyddogaeth statudol sef y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth a Chomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr, y mae eu pwerau wedi'u nodi yn Neddf Comisiynydd Seneddol 1967 a Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993.
Swyddogaeth SOSGI yw darparu gwasanaeth i’r cyhoedd trwy gynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion nad yw adrannau’r llywodraeth ac amrediad o gyrff cyhoeddus eraill yn y DU, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr wedi gweithredu’n deg nac yn briodol neu eu bod wedi darparu gwasanaeth gwael.
Ein gweledigaeth yw:
- sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael i bawb sydd ei angen;
- gweithredu prosesau agored, tryloyw, teg, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer;
- deall cwynion a’u hymchwilio’n drwyadl, yn gyflym ac yn ddiduedd, a sicrhau canlyniadau priodol;
- a rhannu’r hyn a ddysgir er mwyn sicrhau gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma’r gwerthoedd sy’n sail i’n gwaith:
Rhagoriaeth
Anelwn at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl.
Arweinyddiaeth
Arweiniwn drwy esiampl a chredwn y dylai ein gwaith gael effaith gadarnhaol.
Didwylledd
Rydym yn agored, gonest a didwyll yn ein holl waith, a defnyddiwn amser, arian ac adnoddau’n effeithiol.
Amrywiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi pobl a’u hamrywiaeth ac ymdrechwn i fod yn gynhwysol.
Nodir ein gwerthoedd yn fwy manwl yn ein Datganiad Swyddogaeth a Gwerthoedd
Brig
Penodir yr Ombwdsmon gan y Frenhines ar argymhelliad y Prif Weinidog. Mae hi’n annibynnol ar y llywodraeth ac mae ganddi bwerau a chyfrifoldebau statudol i adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd. Dim ond yn dilyn penderfyniad gan y ddau Dŷ Seneddol y gellir ei thynnu o’i swydd.
Mae’r Ombwdsmon yn rhoi cyfrif i'r Senedd am weithgareddau’r Swyddfa trwy Adroddiad Blynyddol statudol. Mae hefyd yn cynhyrchu Cyfrifon Adnoddau dan drefniadau y cytunwyd arnynt gyda’r Trysorlys, sy'n destun archwiliad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Adnoddau.
Mae'r Ombwdsman yn adrodd yn flynyddol ar sut y cyflawnodd ei swyddogaethau yn gyffredinol, ar safonau’r gwasanaeth a ddarparwyd i'r rhai a gwynodd ac ar y defnydd o arian cyhoeddus. O bryd i’w gilydd, mae’n adrodd yn benodol ar enghreifftiau unigol a/neu systemig o gamweinyddu. Mae'n ymddangos o leiaf yn flynyddol gerbron y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus, sydd wedi’i ddewis gan y Senedd (trwy ei Orchmynion Sefydlog) fel ei phrif beirianwaith cyswllt gyda'r Ombwdsman, i roi tystiolaeth ar waith y swyddfa.
Yr Ombwdsmon sy'n gwbl gyfrifol ac atebol am ymddygiad a gweinyddiaeth yr holl waith a wneir gan y swyddfa ac am y penderfyniadau a wneir ymhob achos. Gall penderfyniadau’r Ombwdsmon fod yn destun adolygiad barnwrol trwy wneud cais i’r llysoedd. Mae perthynas yr Ombwdsmon â’r llywodraeth yn cael ei nodi mewn Datganiad o Gyfrifoldebau sydd wedi’i gytuno arno gyda Phennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref, ac Ysgrifenyddion Parhaol y Trysorlys a’r Adran Iechyd.
I'w helpu yn ei gwaith, cefnogir yr Ombwdsmon gan staff y gall ddirprwyo awdurdod iddynt i weithredu ar ei rhan. Fe'u cyflogir ganddi hi ac maent yn gweithio i Swyddfa’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (SOSGI), corff cyhoeddus anllywodraethol, a ariennir gan y Senedd. Fel pennaeth parhaol SOSGI, yr Ombwdsmon yw ei Swyddog Cyfrifyddu dan drefniadau y cytunwyd arnynt gyda’r Trysorlys. Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra a phriodoldeb gweithgareddau’r Swyddfa a’r adnoddau a ddefnyddir ac am systemau rheolaeth fewnol ac ariannol effeithiol.
Ceir tri swyddog gweithredol a benodir gan yr Ombwdsmon ac sy’n atebol iddi, (Dirprwy Ombwdsmon, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu). I’r unigolion hyn y mae wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb i reoli busnes craidd a swyddogaethau atodol SOSGI.
Brig
Y Bwrdd Ymgynghorol
Er mwyn gwella trefn lywodraethu’r Swyddfa, gwella gweithrediad agored y swyddfa a hybu annibyniaeth y swyddogaeth, mae’r Ombwdsmon wedi penodi Bwrdd Ymgynghorol anstatudol. Mae hwn yn cynnwys yr Ombwdsmon ei hun (fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr yn unol â'i hatebolrwydd statudol); a phedwar aelod allanol anweithredol sy’n dod â phersbectif allanol i waith y Swyddfa. Ac eithrio Ombwdsmon arall fel aelod, penodir holl aelodau’r Bwrdd Ymgynghorol trwy broses o gystadleuaeth deg ac agored.
I adlewyrchu ei natur ymgynghorol ac agored, nid yw’r swyddogion gweithredol yn aelodau ffurfiol o Fwrdd Ymgynghorol SOSGI ond byddant yn bresennol yn y cyfarfodydd i ddarparu pa fewnbwn corfforaethol bynnag sydd ei angen.
Swyddogaeth y Bwrdd yw gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ gan ddarparu cefnogaeth a chyngor i’r Ombwdsmon i lywodraethu ac arwain SOSGI yn effeithiol a dod â phersbectif allanol i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arfer. Mae'r Bwrdd yn darparu cyngor a chefnogaeth benodol ar y canlynol:
- Pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd;
- Cyfeiriad a chynllunio strategol;
- Atebolrwydd i randdeiliaid, gan gynnwys stiwardiaeth ar arian cyhoeddus;
- Trefniadau rheolaeth fewnol a rheoli risg.
Nid oes gan y Bwrdd rôl gyda golwg ar brosesau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â gwaith achos.
Gellir gweld Cylch Gorchwyl llawn y Bwrdd yma
Mae gan y Bwrdd Ymgynghorol ddau is-bwyllgor ffurfiol, ac mae gan y ddau swyddogaethau allweddol o ran llywodraethu SOSGI yn effeithiol:
- Pwyllgor Archwilio sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor a sicrwydd i’r Swyddog Cyfrifyddu a’r Bwrdd Gweithredol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y prosesau rheolaeth fewnol a rheoli risg. Mae hefyd yn goruchwylio’r trefniadau archwilio mewnol ac allanol sy’n cwmpasu holl waith SOSGI, gan gynnwys systemau ariannol ac anariannol. Mae iddo bedwar aelod: Cadeirydd allanol a benodir gan yr Ombwdsmon trwy broses o gystadleuaeth deg ac agored; yr Ombwdsmon ei hun a dau aelod allanol arall.
- Pwyllgor Taliadau sy’n gyfrifol am y trefniadau talu yn SOSGI, ac yn benodol ar gyfer pennu cyflogau uwch staff (ac eithrio cyflog yr Ombwdsmon ei hun sy’n cael ei bennu ar wahân o dan drefniadau statudol) - yr aelodau yw'r Ombwdsmon (fel Cadeirydd) ac unrhyw ddau aelod allanol o’r Bwrdd Ymgynghorol.
Brig
Bwrdd Gweithredol
Mae Bwrdd Gweithredol, a gadeirir gan yr Ombwdsmon ac sy’n cynnwys y Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu, yn rheoli swyddogaethau a gweithgareddau SOSGI. Y Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am gyflwyno gweledigaeth strategol, polisïau a gwasanaethau SOSGI i’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn gyfarfod yn rheolaidd ac yn gyfrifol am gydlynu gweithgaredd ar draws y sefydliad. Dyma’r prif fforwm ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol am faterion gweithredol, adnoddau, cyfathrebu a materion gweinyddol eraill er mwyn cyflwyno'r Cynlluniau Strategol a Chorfforaethol ac am fonitro perfformiad. Mae swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol o ran gwneud penderfyniadau yn cynnwys cydnabyddiaeth y bydd yn achlysurol rai materion lle na all neb ond yr Ombwdsmon wneud penderfyniad arnynt.
Mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod yn ffurfiol hefyd gydag uwch reolwyr eraill i lywio a chymryd yr awenau gyda meysydd gwaith strategol bwysig.
Gellir gweld Cylch Gorchwyl y Bwrdd Gweithredol yma
Cyfrifoldebau’r Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu
Yn ychwanegol i’w cyfrifoldebau corfforaethol, mae'r Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu yn atebol am gyflwyno swyddogaethau penodol y mae ganddynt gyfrifoldeb drostynt fel rheolwyr linell a chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau yn eu cylch:
- Y Dirprwy Ombwdsmon – mae’n arwain y timau Gweithredol sy’n gyfrifol am y gwasanaeth gwaith achos a'r gwasanaeth i gwsmeriaid – sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid ac Asesu; Rheolwyr Ymchwiliadau, a Chyfarwyddwr Canlyniadau a Dysgu, staff gwaith achos, cynghorwyr clinigol mewnol ac allanol a staff cefnogi; cefnogir y Dirprwy Ombwdsmon yn ei gwaith o gyflawni’i swyddogaethau gan Dîm Rheoli Gweithredol (TRG).
- Deputy Ombudsman – leads Operational teams responsible for delivery of casework and customer service - comprising a Director of Customer Services and Assessment, Investigations Directors and a Director of Outcomes and Learning, casework staff, internal and external clinical advisers and support staff; the Deputy Ombudsman is supported in managing delivery of her functions through an Operational Management Team (OMT).
- Dirprwy Brif Weithredwr - mae’n arwain y timau Adnoddau Corfforaethol sy’n gyfrifol am reoli gwasanaethau a systemau ariannol, cyfleusterau, TGCh ac adnoddau dynol yn cynnwys: Cyfarwyddwr Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, Pennaeth Darparu Gwasanaethau, a Phennaeth Gweithrediadau Adnoddau Dynol a staff proffesiynol, arbenigol a chefnogol eraill: cefnogir y Dirprwy Brif Weithredwr yn y gwaith o reoli darparu gwasanaethau corfforaethol drwy’r Tîm Rheoli Adnoddau Corfforaethol.
- Cyfarwyddwr Polisi, Gwybodaeth a Chyfathrebu - yn arwain y timau sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi ac ymchwil, cyfathrebu mewnol ac allanol, a rheoli gwybodaeth.
Mae gan aelodau’r Bwrdd Gweithredol gyfrifoldeb penodol i weithredu os ydynt o'r farn fod yr Ombwdsman yn gweithredu'n anghyfreithlon neu yn mynd yn groes i'w dyletswyddau. Bwriad y cyfrifoldeb hwn yw rhoi sicrwydd pendant a thryloyw i’r Senedd a’r cyhoedd y bydd safonau uchel y Swyddfa yn cael eu diogelu.
Cefnogir yr Ombwdsmon gan Bennaeth yr Ysgrifenyddiaeth a Llywodraethu sy’n arwain tîm i ddarparu gwasanaethau llywodraethu corfforaethol a gwasanaethau gweinyddol i’r Byrddau Gweithredu ac Ymgynghorol.
Cefnogir yn Ombwdsmon hefyd gan Gynghorydd Cyfreithiol sy’n arwain tîm bychan o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol mewnol a chomisiynu gwasanaethau cyfreithiol allanol.
Mae strwythur sefydliadol SOSGI i’w weld yma
Pwyllgorau Eraill
Cefnogir strwythur llywodraethu ffurfiol SOSGI gan nifer o Bwyllgorau eraill a sefydlwyd i reoli a darparu sicrwydd ar feysydd o bwysigrwydd penodol i’r Swyddfa. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pwyllgor Iechyd a Diogelwch;
- Pwyllgor Whitley (ar gyfer ymgynghori gyda’r Undebau Llafur).
Grwpiau ymgynghorol yw’r rhain ac adroddant yn achlysurol i’r Bwrdd Gweithredol ar faterion i’w hystyried, argymhellion a, lle bo’n briodol, sicrwydd bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer rheoli’r risgiau a’r materion penodol yr ymdrinnir â hwy gan bob Pwyllgor.
Brig
Grwpiau trafod ac ymgynghori
Mae’r Swyddfa hefyd wedi sefydlu nifer o grwpiau trafod ac ymgynghori i helpu’r broses gyfathrebu ac i gefnogi rheolaeth a chysylltiadau effeithiol o fewn y Swyddfa. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y Grŵp Arweinyddiaeth – yn cynnwys Cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr eraill;
- Fforwm y Rheolwyr Ymchwiliadau – yn cynnwys Rheolwyr Ymchwiliadau;
- Fforwm y Rheolwyr Corfforaethol – yn cynnwys rheolwyr heb fod yn ymwneud ag ymchwiliadau;
- grwpiau ad hoc eraill a sefydlir i ystyried materion penodol megis Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth.
Adolygir y datganiad llywodraethu hwn bod chwe mis o fis Mawrth 2007.
Mawrth 2007
Brig
|