|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Cylch gorchwyl Bwrdd SOSGI
Cyd-destun
Mae’r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth a Chomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr yn benodiadau statudol, a’r un person sydd wastad wedi dal y ddwy swydd ar y cyd. Yr enw ar y swydd yw'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (yr Ombwdsmon).
Mae’r Ombwdsmon yn gwbl gyfrifol ac atebol am holl waith ei Swyddfa ac am y penderfyniadau a wna. Yn unol â’i hawdurdod statudol hi, felly, yw Cadeirydd, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (SOSGI). Mae'n adrodd yn flynyddol i'r Senedd ar sut y cyflawnodd ei swyddogaethau, ar safonau’r gwasanaeth a ddarparwyd i'r rhai a gwynodd ac ar y defnydd o arian cyhoeddus.
Er mwyn gwella trefn lywodraethu’r Swyddfa’r OSGI, gwella gweithrediad agored y swyddfa a hybu annibyniaeth y swyddogaeth, mae’r Ombwdsmon wedi penodi Bwrdd ymgynghori anstatudol, sef Bwrdd Ymgynghorol SOSGI sy'n cynnwys aelodau allanol a hithau fel Cadeirydd.
Brig
Swyddogaeth Bwrdd Ymgynghorol SOSGI
Swyddogaeth y Bwrdd Ymgynghorol yw gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ a rhoi cefnogaeth a chyngor i’r Ombwdsmon wrth lywodraethu ac arwain SOSGI yn effeithiol fel y nodir yn Natganiad Llywodraethu’r Swyddfa a dod â phersbectif allanol i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arfer. Mae Bwrdd Ymgynghorol SOSGI yn darparu cyngor a chefnogaeth benodol i’r Ombwdsmon ar y canlynol:
- pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd;
- cyfeiriad strategol a chynllunio;
- atebolrwydd i randdeiliaid, gan gynnwys stiwardiaeth ar arian cyhoeddus;
- trefniadau rheolaeth fewnol a rheoli risg.
Nid oes gan y Bwrdd rôl gyda golwg ar brosesau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â gwaith achos.
Brig
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau’r Bwrdd yw:
- Helpu’r Ombwdsmon i sefydlu:
- nod a phwrpas y sefydliad;
- moeseg a gwerthoedd;
- trefniadau llywodraethu, gan gynnwys cylch gorchwyl unrhyw is-bwyllgor;
- cyfeiriad strategol;
- targedau, amcanion a blaenoriaethau strategol;
- polisïau busnes allweddol;
- polisïau a strategaethau cyflogaeth allweddol;
- Craffu a rhoi sicrwydd mewn perthynas â’r canlynol:
- Cynlluniau Strategol a Busnes;
- ceisiadau cyllido i'r Trysorlys;
- dyraniad cyllideb lefel uchel;
- cyfrifon adnoddau;
- unrhyw gontractau/buddsoddiad cyfalaf o bwys (dros £1 miliwn).
- Adolygu a monitro:
- risg a rheolaeth fewnol;
- darpariaeth a pherfformiad gweithredol;
- perfformiad ariannol;
- effeithiolrwydd polisïau a strategaethau cyflogaeth;
- materion amrywiaeth a chyfle cyfartal;
- strategaethau cyfathrebu allanol a chysylltiadau â rhanddeiliaid;
- iechyd a diogelwch, gwarchodaeth a pharhad busnes.
Aelodaeth
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys:
- Ombwdsmon (Cadeirydd, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu)
- Pedwar aelod allanol (gydag un yn dod o swyddfa Ombwdsmon arall; a bydd y lleill yn benodiadau allanol a fydd yn cynnig sgiliau a phrofiad penodol a geisir gan yr Ombwdsmon).
Cyfarfodydd
Cynhelir cyfarfodydd chwe gwaith y flwyddyn, pedwar ohonynt yn cael eu hamseru i alluogi ystyried Adroddiadau Perfformiad Chwarterol, a dau ohonynt yn cael eu hamseru i alluogi ystyried materion mwy strategol ac i gynnwys sesiynau briffio ar ddatblygiadau allanol a mewnol. Y cworwm fydd o leiaf dri aelod, gyda’r Ombwdsmon yn un ohonynt.
Cedwir y cofnodion gan Gynorthwy-ydd Gweithredol yr Ombwdsmon ac, yn dilyn eu cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, fe’u cyhoeddir fel y penderfyna’r Ombwdsmon.
Brig
Is-bwyllgorau
Cefnogir y Bwrdd Ymgynghorol gan ddau is-bwyllgor:
- Pwyllgor Archwilio
- Pwyllgor Taliadau
Cyhoeddir cylch gorchwyl y Pwyllgorau hyn yn ôl penderfyniad yr Ombwdsmon.
Adolygu Cylch Gorchwyl Bwrdd Ymgynghorol SOSGI
Adolygir Cylch Gorchwyl Bwrdd Ymgynghorol SOSGI bod chwe mis o fis Mawrth 2007.
Review of PHSO Advisory Board Terms of Reference
The PHSO Advisory Board Terms of Reference will be reviewed on a biannual basis from March 2007.
Mawrth 2007
Brig
|