|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Pwyllgor Tâl
Swyddogaeth y Pwyllgor Tâl
Swyddogaeth y Pwyllgor Tâl yw cytuno ar drefniadau a pholisi tâl yr Ombwdsman, a gwneud penderfyniadau ar ddyfarniadau cyflog. Bydd yn cymryd cyfrifoldeb penodol dros y canlynol:
-
Cytuno ar drefniadau a pholisi tâl, ac adolygu llwyddiant o ran hybu perfformiad da a gwelliant mewn perfformiad, cefnogi'r broses o recriwtio a chadw staff, cynnal egwyddorion cyflog cyfartal
-
Cytuno ar newidiadau polisi yn dilyn ymgynghori'n briodol â staff
-
Adolygu a chytuno ar drefniadau adolygu cyflogau a pherfformiad uwch staff yn flynyddol, gan gynnwys meini prawf ar gyfer unrhyw elfennau cyflog wedi'i seilio ar berfformiad
-
Ystyried argymhellion ar gyfer dyfarniadau cyflog unigol a bonysau ar gyfer uwch staff, a phenderfynu ar y symiau
-
Ystyried sut y dylid datrys unrhyw anghydfod neu anghysondeb unigol ynghylch cyflogau uwch staff
-
Ar gyfer staff ym mandiau cyflog A-E, cadarnhau argymhellion ar gyfer unigolion a/neu dimau gyda golwg ar unrhyw elfennau cyflog wedi'i seilio ar berfformiad.
[Noder: mae'r cytundebau cyflog blynyddol ar gyfer Bandiau Cyflog A-E yn fater i'r Dirprwy Brif Weithredwr ei drafod a chytuno arno gyda'r undebau llafur o fewn trefniadau a pholisi tâl trosfawol cytunedig yr Ombwdsmon, gyda'r Pwyllgor Tâl yn cael adroddiad am y canlyniad.]
Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon, bydd y Pwyllgor Tâl yn sicrhau bod y penderfyniadau:
-
yn cefnogi cyflawni nodau a strategaeth fusnes yr Ombwdsmon
-
yn gymesur, teg a chyfiawn, ac yn cefnogi egwyddorion Cyflog Cyfartal
-
yn ystyried arfer da a pholisi tâl y sector cyhoeddus ehangach
-
yn cael eu cefnogi gan lefel briodol o wybodaeth a dadansoddiad.
Aelodau Pwyllgor Tâl SOSGI
Aelodau'r Pwyllgor Tâl yw'r Ombwdsmon, sy'n gweithredu fel y Cadeirydd, a dau aelod allanol y Bwrdd. Bydd y Dirprwy Ombwdsmon, y Dirprwy Brif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu, a'r Cyfarwyddwr AD yn mynychu, ac eithrio pan fydd materion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'u cyflogau'u hunain yn cael eu trafod.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Tâl
Bydd y Pwyllgor Tâl yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf - fel arfer ym mis Mawrth a mis Gorffennaf. Gall y Pwyllgor ei hun drefnu i gynnal rhagor o gyfarfodydd yn ôl yr angen.
Mawrth 2005
Brig
|