|
Hafan > Amdanom ni > Llywodraethu > Datganiad o gyfrifoldebau
Mae dau bwrpas i'r ddogfen hon:
- nodi cyfrifoldebau Swyddfa’r Cabinet, y Trysorlys a’r Adran Iechyd gyda golwg ar ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i'r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth a Chomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr (sef Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI)) er mwyn sicrhau bod ei swyddfa’n gweithredu'n effeithiol yn unol â bwriadau’r Senedd;
- nodi cyfrifoldebau'r OSGI gyda golwg ar ddangos atebolrwydd priodol dros yr arian cyhoeddus a ddarperir iddi.
Brig
Y dyddiad y daw’r ddogfen hon i rym yw 1 Mawrth 2007. Bydd yn cael ei hadolygu pob dwy flynedd wedi hynny. Swyddfa’r Cabinet fydd yn cydlynu’r adolygiadau, gan gymryd yr awenau mewn trafodaethau gyda’r OSGI, a chysylltu gydag adrannau eraill yn ôl yr angen.
Brig
Mae’r darpariaethau statudol perthnasol sy’n llywio gwaith yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd fel a ganlyn:
- Deddf Comisiynydd Seneddol 1967
- Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993
Mae awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn cael ei newid a/neu ei diweddaru trwy Orchmynion y Cyfrin-gyngor neu trwy ddulliau deddfwriaethol eraill.
Brig
Mae'r Ombwdsmon yn un o weision y Goron a benodir gan y Frenhines trwy Freintlythyrau ar argymhelliad y Prif Weinidog. Mae’n dal ei swydd yn ystod iawnymddygiad, a dim ond yn dilyn penderfyniad gan y ddau Dŷ Seneddol y gellir ei thynnu o’i swydd neu os yw’n mynd yn anabl i weithio.
Brig
Swyddogaeth OSGI yw darparu gwasanaeth i’r cyhoedd trwy gynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion am adrannau’r llywodraeth ac amrediad o gyrff cyhoeddus eraill yn y DU; a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
Mae OSGI yn ceisio gwneud y canlynol:
- sicrhau bod ei gwasanaeth ar gael i bawb sydd ei angen;
- gweithredu prosesau agored, tryloyw, teg, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer;
- deall cwynion a’u hymchwilio’n drwyadl, yn gyflym ac yn ddiduedd, a sicrhau canlyniadau priodol;
- a rhannu’r hyn a ddysgir er mwyn sicrhau gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Brig
Mae cyfrifoldebau’r Ombwdsmon i'r Senedd fel a ganlyn:
- Adrodd yn flynyddol i'r Senedd ar sut y cyflawnodd ei swyddogaethau yn gyffredinol, a safonau’r gwasanaeth a ddarparwyd i'r rhai a gwynodd a sut y defnyddiwyd arian cyhoeddus.
- Dwyn sylw’r Senedd at enghreifftiau o anghyfiawnder:
- lle nad yw’r llywodraeth na’r GIG yn cynnig unioni’r anghyfiawnder neu lle nad yw'r unioni a gynigir yn ddigonol; a/neu
- lle mae'r achos unigol (neu achosion) yn codi materion systemig ehangach.
- Cyfrannu at drafodaethau’r Senedd ar faterion sy’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus drwy gynnwys y gwersi a ddysgwyd o waith achos yn y trafodaethau hynny a thrwy ddwyn sylw'r rhai sy’n llunio polisïau a deddfwriaeth at y themâu a nodwyd mewn perthynas â'r cwynion.
- Cynnal deialog adeiladol ar y materion hyn gyda’r Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus, sydd wedi’i ddewis gan y Senedd (trwy ei Orchmynion Sefydlog) fel ei phrif beirianwaith cyswllt gyda'r Ombwdsmon. Mae'r Ombwdsmon yn ymddangos gerbron y Pwyllgor o leiaf unwaith y flwyddyn i roi tystiolaeth am waith ei swyddfa.
Brig
Yn ychwanegol i’w chyfrifoldebau i'r Senedd, mae OSGI wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw yn ei gweithrediadau a’r defnydd a wna o arian cyhoeddus. Bydd yr Ombwdsmon yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol Cryno a bydd cyfrifon archwiliedig OSGI ar gael i’r cyhoedd yn ogystal ag i’w cyflwyno gerbron y Senedd. Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gan OSGI Gynllun Cyhoeddi a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Brig
Polisi a chyswllt
Gan Swyddfa’r Cabinet y mae’r cyfrifoldeb trosfwaol dros bolisi ar draws y llywodraeth mewn perthynas â materion cyffredinol sy’n ymwneud â’r Ombwdsmon a swyddogaeth 'nawdd’ benodol dros OSGI. Mae’n gweithredu fel prif bwynt cyswllt yr Ombwdsmon â’r llywodraeth. Mae hefyd yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda’r Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus ar faterion sy'n ymwneud â'r Ombwdsmon.
Mae gan Swyddfa’r Cabinet y cyfrifoldebau polisi a chyswllt penodol canlynol:
- Rheoli’r broses ar gyfer dethol a phenodi’r Ombwdsmon.
- Darparu arweiniad i adrannau’r llywodraeth ar weithio gyda’r Ombwdsmon.
- Darparu arweiniad i adrannau’r llywodraeth ar sefydlu cynlluniau Ombwdsmon newydd.
- Cadw golwg gyffredinol ar ddatblygiadau yn adrannau’r llywodraeth sydd â goblygiadau i OSGI. Bydd Swyddfa’r Cabinet yn sicrhau bod yr adran berthnasol yn ymgynghori â’r Ombwdsmon mewn da bryd ar unrhyw agwedd ar ddatblygu polisi sy’n cael effaith ar awdurdodaeth neu bwerau’r Ombwdsmon.
- Adolygu’n barhaus y darpariaethau statudol sy’n llywio gwaith OSGI, gan sicrhau eu bod yn gywir, yn gynhwysfawr ac yn addas i’r pwrpas. Yn benodol, sicrhau bod awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn cael ei chadw’n gyfredol drwy Orchmynion y Cyfrin-Gyngor yn ôl yr angen. Fel isafswm, mae Swyddfa’r Cabinet yn anelu at symud Gorchymyn y Cyfrin-Gyngor yn ei flaen unwaith bob deuddeng mis.
- Cynnal rhestr ganolog o gysylltiadau adrannol sydd wedi cael y gwaith o sicrhau bod yr Ombwdsmon yn derbyn ymatebion prydlon a chynhwysfawr i geisiadau am wybodaeth a dogfennau.
- Cynnal trefniadau cyswllt rheolaidd gyda’r Ombwdsmon. Fel isafswm, mae Swyddfa’r Cabinet a’r Ombwdsmon wedi cytuno y byddant yn cyfarfod unwaith bob deufis. Bydd Swyddfa'r Cabinet hefyd yn cysylltu ag Ysgrifennydd Parhaol Hyrwyddwr yr Ombwdsmon.
Staff
Mae darpariaethau gweinyddol Deddf Comisiynydd Seneddol 1967 a Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 yn galluogi’r Ombwdsmon i benodi swyddogion fel y gwêl yn ddoeth, ‘with the approval of the Treasury as to numbers and conditions of service’. O ganlyniad i Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Trysorlys a Gweinidog y Gwasanaeth Sifil) 1995, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn o'r Trysorlys i Swyddfa’r Cabinet.
Mae staff OSGI yn weision y Goron. Nid ydynt, serch hynny, yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil Cartref. O’r herwydd, nid ydynt yn dod o fewn awdurdodaeth Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil ac nid ydynt yn rhwym wth unrhyw ofynion eraill a bennir ar gyfer gweision sifil Cartref o ran penodi, telerau ac amodau, taliadau ayb.
Mae’r Ombwdsmon yn gyfrifol am y canlynol:
- rhoi ar waith delerau ac amodau cyflogaeth priodol a strwythurau talu a gwobrwyo sy'n diwallu anghenion busnes OSGI;
- penodi Pwyllgor Taliadau gydag aelodau annibynnol i ddarparu cyngor a sicrwydd ar y systemau taliadau yn gyffredinol, ac ar gyfer cymeradwyo dyfarniadau cyflog;
- negodi dyfarniadau cyflog a newidiadau eraill i'r telerau ac amodau cyflogaeth gyda'r undebau llafur cydnabyddedig, gan sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r angen am iddynt gymharu’n eithaf gyda rhai’r Gwasanaeth Sifil.
Mae Swyddfa’r Cabinet yn gyfrifol am:
- sicrhau bod trefniadau dirprwyo priodol ar waith ac yn cael eu cynnal yn briodol.
Cwynion i’r Ombwdsmon
Mae Swyddfa’r Cabinet yn gyfrifol am gynnal bwlch priodol rhwng gweithgareddau gwaith achos a ‘nawdd’ pan fydd OSGI yn derbyn cwynion am gamweinyddu ar ran Swyddfa’r Cabinet.
Dan ddarpariaethau gweinyddol Deddf Comisiynydd Seneddol 1967 a Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993, bydd costau’r Ombwdsmon, am swm a gymeradwyir gan y Trysorlys, yn cael eu talu gan arian a ddarperir gan y Senedd.
Mae’r Ombwdsmon a’r Trysorlys wedi cytuno ar eu cyfrifoldebau unigol mewn perthynas â’r darpariaethau gweinyddol hyn yn y meysydd canlynol:
- Cyllid
- Gwariant
- Cyfrifyddu a Chofnodi
Maent hefyd wedi cytuno i gadw cysylltiad rheolaidd, gan gyfarfod mor aml ag sy’n ofynnol i drafod sut i gyflawni’u cyfrifoldebau yn effeithiol.
Cyllid
Cyllidir OSGI, yn unol â deddfwriaeth, yn uniongyrchol o arian a ddarperir gan y Senedd.
Mae’r Ombwdsmon yn gyfrifol am y canlynol:
- Darparu Cyflwyniad am Setliad Cyllido 3 Blynedd fel sy'n ofynnol;
- rhoi Prif Amcangyfrif i’r Trysorlys o adnoddau, gofynion cyfalaf ac arian, gan gynnwys cyflogau, ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol yn unol â'r amserlen gyhoeddedig;
- sicrhau bod Bwrdd Gweithredol yn craffu ar y cyfryw Amcangyfrifon ac yn eu cymeradwyo, gan fod yn ymwybodol o’r angen i fod yn ddarbodus, effeithlon ac effeithiol wrth wneud cais am adnoddau a'r defnydd ohonynt, ac, ar gyfer cyflogau, sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i'r angen am i'r cyflogau gymharu’n eithaf gyda rhai'r Gwasanaeth Sifil.
Mae’r Trysorlys yn gyfrifol am y canlynol:
- archwilio’r Cyflwyniad am Setliad Cyllido 3 Blynedd;
- archwilio’r Amcangyfrifon a chael esboniad gan OSGI o unrhyw faterion yn ôl y gofyn ac, mewn perthynas â chyflogau, cadarnhau bod ystyriaeth lawn wedi'i rhoi i’r angen am iddynt gymharu'n eithaf gyda rhai’r Gwasanaeth Sifil;
- awdurdodi’r Setliad Cyllido 3 Blynedd a'r Amcangyfrifon a gwneud argymhellion i Weinidogion gan roi sylw priodol i safle arbennig yr Ombwdsmon ac annibyniaeth OSGI oddi ar y llywodraeth, a’r angen i sicrhau nad yw penderfyniadau ar gyllid yn atal OSGI rhag cyflawni’i swyddogaethau;
- cadarnhau gyda’r Ombwdsmon fod y Prif Ysgrifennydd wedi cymeradwyo’r Amcangyfrifon, yn unol â'r amserlen gyhoeddedig;
- cyflwyno’r Amcangyfrifon gerbron y Senedd i'w cymeradwyo a’u darparu.
Gwariant
Mater i’r Ombwdsmon fydd gwario'r adnoddau a ddarperir gan y Senedd, yn rhwym wrth ofynion arferol priodoldeb, rheoleidd-dra, archwilio a sicrhau gwerth am arian.
Mae’r Ombwdsmon yn gyfrifol am y canlynol:
- darparu datganiadau ariannol i’r Trysorlys yn ôl yr angen ar adnoddau gwirioneddol a rhagolygon adnoddau a gwariant arian yn ystod y flwyddyn;
- sicrhau bod y gwariant yn aros o fewn yr adnoddau a ddarperir gan y Senedd bob blwyddyn;
- hysbysu’r Trysorlys os bydd angen Amcangyfrif Atodol Gaeaf neu Wanwyn (o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn neu fel arall o’r Gronfa wrth gefn).
Mae’r Trysorlys yn gyfrifol am y canlynol:
- cynnal cyswllt rheolaidd a phriodol gyda OSGI a rhoi cyngor iddi ar faterion gwariant ar lefelau priodol;
- sicrhau bod ceisiadau am Amcangyfrifon Atodol yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd i’w hystyried a’u cymeradwyo.
Brig
Cyfrifyddu a Chofnodi
Nid yw’r Ombwdsmon ac OSGI yn dod o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, sydd yn berthnasol i adrannau'r llywodraeth yn unig. O’r herwydd, nid oes gan y Trysorlys unrhyw locws statudol i benodi’r Ombwdsmon fel Swyddog Cyfrifyddu; nid yw ychwaith yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i’r Ombwdsmon ar lunio neu osod cyfrifon gerbron y Senedd, nac ar unrhyw fater arall sy'n dod o dan y Ddeddf.
Serch hynny, er mwyn cydnabod cyfrifoldeb yr Ombwdsmon i roi cyfrif priodol am yr adnoddau a ddyrennir iddi, mae’r Trysorlys a’r Ombwdsmon wedi cytuno yn weinyddol y bydd swydd yr Ombwdsmon yn cynnwys dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu, fel a bennir yn Nhrefn Gyfrifo’r Llywodraeth.
Mae’r Ombwdsmon yn gyfrifol am y canlynol:
- rheoleidd-dra a phriodoldeb; cadw cyfrifon cywir; gweinyddiaeth economaidd a darbodus; osgoi gwastraff ac afradlonedd; a'r defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau;
- sefydlu Pwyllgor Archwilio gyda chadeirydd annibynnol i gefnogi'r Ombwdsmon, fel Swyddog Cyfrifyddu, i sicrhau effeithiolrwydd y systemau rheolaeth fewnol a'r trefniadau rheoli risg;
- sicrhau bod holl reolaethau a systemau’r swyddfa yn destun rhaglen gynhwysfawr o archwilio mewnol;
- llunio Cyfrifon Adnoddau blynyddol sy’n cydymffurfio â'r safonau a bennir yn y Llawlyfr Cyfrifyddu ar sail Adnoddau;
- sicrhau bod y Cyfrifon Adnoddau yn cael eu harchwilio a’u hardystio gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol;
- cyhoeddi a gosod y Cyfrifon gerbron y Senedd gan ddefnyddio pwerau’r Ombwdsmon i osod adroddiadau arbennig.
Mae’r Trysorlys yn gyfrifol am:
- sicrhau bod annibyniaeth a safle arbennig OSGI yn cael ei gydnabod, ei barchu a'i ddeall ar draws y Trysorlys.
Cwynion i’r Ombwdsmon
Mae’r Trysorlys yn gyfrifol am gynnal bwlch priodol rhwng gweithgareddau gwaith y Trysorlys.
Brig
Mae'r Adran Iechyd yn gyfrifol am gysylltu gyda’r Ombwdsmon mewn perthynas â’i swyddogaeth fel Comisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Mae ganddi'r cyfrifoldebau penodol canlynol:
- Ar y cyd â Swyddfa’r Cabinet, adolygu’n barhaus y darpariaethau statudol sy’n llywio gwaith Comisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, gan sicrhau eu bod yn gywir, yn gynhwysfawr ac yn addas i’r pwrpas. Yn benodol, cysylltu gyda Swyddfa’r Cabinet i sicrhau bod awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn cael ei chadw’n gyfredol drwy Orchmynion y Cyfrin-Gyngor yn ôl y gofyn.
- Cadw golwg gyffredinol ar ddatblygiadau adrannol sydd â goblygiadau i Gomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Bydd yr Adran yn sicrhau yr ymgynghorir â Chomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr mewn da bryd ar unrhyw agwedd ar ddatblygu polisi neu newidiadau gweithredol sy’n cael effaith ar awdurdodaeth neu bwerau’r Comisiynydd.
- Cynnal trefniadau cyswllt rheolaidd gyda Chomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Mae’r Adran a’r Comisiynydd wedi cytuno y byddant yn cyfarfod o leiaf bob chwarter.
- Cynnal bwlch priodol rhwng gweithgareddau gwaith achos a ‘nawdd’ pan fydd OSGI yn derbyn cwynion am gamweinyddu ar ran yr Adran Iechyd.
Brig
Mae gan yr Ombwdsmon drefn gwyno sy'n rhoi arweiniad ar sut i gwyno wrthi os yw’r sawl sy'n cwyno'n anfodlon gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd gan ei swyddfa. Nid oes gan Swyddfa’r Cabinet, y Trysorlys na’r Adran Iechyd unrhyw locws gyda chwynion o'r fath sy'n faterion i'r Ombwdsman ei hun ac, yn y pendraw, i'r llysoedd a/neu'r Senedd fel sy'n briodol.
1 Mawrth 2007
Brig
|