|
Hafan > Amdanom ni > Aelodau Anweithredol y Bwrdd
Mae pum aelod anweithredol y bwrdd yn gweithio gyda'r Ombwdsmon i wella trefn lywodraethu’i swyddfa, gwella gweithrediad agored y swyddfa a hybu annibyniaeth y swyddogaeth. Nid ydynt yn gysylltiedig â’r ymchwiliadau i gwynion.
Mae Tony Redmond, Cecilia Wells, Paula Carter a Linda Charlton yn aelodau o’r Bwrdd Ymgynghorol a’r Pwyllgor Tâl tra mae Andrew Puddephatt yn cadeirio’r Pwyllgor Archwilio .
Ar hyn o bryd, mae’n gyfarwyddwr gyda Global Partners ac yn Gadeirydd panel Adolygu Tryloywder Annibynnol yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear. Mae hefyd yn Is-gadeirydd International Media Support, corff anllywodraethol sydd wedi’i leoli yn Nenmarc sy'n darparu cymorth brys i newyddiadurwyr mewn ardaloedd o wrthdaro. Mae Andrew hefyd yn aelod o Bwyllgor Llywio Rhyngwladol cronfa ddata Bibliotheca Alexandrina, prosiect a leolir yn Norwy sy'n rhoi hanes sensoriaeth yn y byd ar gof a chadw, ac yn aelod rhyngwladol o Fwrdd Open Democracy Centre yn Ne Affrica.
O Ionawr 1999 i Hydref 2004, bu Andrew yn Gyfarwyddwr Gweithredol ARTICLE 19. Mae wedi bod yn aelod arbenigol o Gyngor Ewrop a gweithgorau arbenigol y Gymanwlad ar ryddid gwybodaeth a rhyddid mynegiant. O 1995 i 1999 roedd Andrew yn gyfarwyddwr Charter 88 prif fudiad diwygio cyfansoddiadol y DU. Rhwng 1989 a 1995 bu’n Ysgrifennydd Cyffredinol Liberty mudiad hawliau dynol domestig yn y DU. Bu ganddo rôl flaenllaw yn y gwaith o sicrhau Mesur Hawliau ar gyfer y DU.
Cafodd Andrew OBE ym mis Ionawr 2003 am ei wasanaeth i hawliau dynol.
Brig
Mae Tony yn aelod anweithredol o Fwrdd SOSGI a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Taliadau (un o is-bwyllgorau ffurfiol y Bwrdd).
Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn dros Weinyddu Lleol (Lloegr) ac yn Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Mae Tony yn aelod o Gyngor CIPFA, Cymrawd o Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig a Chymrawd o’r RSA. Mae Tony yn Aelod o Gyngor CIPFA, yn Gymrawd o CPA Awstralia ac yn Gymrawd o’r RSA. Mae hefyd yn Aelod o’r Ganolfan Seminarau Polisïau Cyhoeddus.
Yn flaenorol bu’n Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid Bwrdeistref Harrow yn Llundain a Thrysorydd Awdurdod Gwastraff Gorllewin Llundain.
Roedd ei swyddi cynharaf ym meysydd Cyfrifyddiaeth, Archwilio, Refeniw a Chynllunio Corfforaethol gyda Chyngor Dinas Lerpwl ac arweiniodd hyn i gyd at swydd Prif Gyfrifydd y Ddinas. Aeth ymlaen i Gyngor Bwrdeistref Metropolitan Wigan fel Dirprwy Drysorydd, ac wedyn ymlaen i swydd Trysorydd a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Thrysorydd gydag Awdurdod Heddlu Glannau Mersi, gan symud wedyn i Harrow.
Brig
Mae Cecilia yn aelod anweithredol o Fwrdd SOSGI a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Taliadau (un o is-bwyllgorau ffurfiol y Bwrdd).
Mae Cecilia yn gydberchennog ac yn Gyfarwyddwr Astar Management Consultants Cyf, ymgynghorwyr sy’n gweithio gyda chyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus i wella'u perfformiad busnes trwy ddatblygu'u sefydliadau i wneud gwell defnydd o amrywiaeth eu pobl. Mae Cecilia yn ymgynghorydd adnoddau dynol profiadol sydd wedi gweithio gyda chleientiaid yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat dros y deng mlynedd ddiwethaf ar faterion cydraddoldeb a rheoli amrywiaeth.
Yn ddiweddar, rhoddodd y gorau i’w swydd fel Is-gadeirydd Centrepoint, elusen sy'n gweithio gyda phobl ddigartref, ar ôl cyfnod o 16 mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwraig anweithredol yn Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch, yn Asesydd Annibynnol dros Benodiadau Cyhoeddus ac yn aelod o Banel Cynghori’r Adran Diwydiant a Masnach ar Gysylltiadau Gweithwyr. Mae Cecilia wedi’i phenodi hefyd yn Gyflafareddwraig i ACAS.
Mae ei phrofiad gwaith arall yn cynnwys tair blynedd yn dysgu, naw mlynedd ym maes Rheoli Adnoddau Dynol gyda British Leyland, a saith mlynedd gyda Manpower plc yn gweithio fel Rheolwr Cangen, ac wedyn fel Rheolwr Datblygu ar gyfer y DU.
Dyma rai o’i phenodiadau cyhoeddus eraill:
- Aelod o Gyngor, a Chadeirydd Dros Dro yn 2000, Y Gwasanaeth Ymgynghorol Cymodi a Chymrodeddu (ACAS) (1992 – 2000)
- Cyfarwyddwr Anweithredol ac wedyn Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolaeth Gofal a Chymunedol Bedford a’r Siroedd (1995 – 1999)
- Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol Rhanbarthol, BBC South East (1995 – 1998)
- Comisiynydd gyda’r Comisiwn Cyfle Cyfartal (1990 – 1996)
- Aelod o’r Grwp Cynghori ar Gysylltiadau Hiliol ar gyfer yr Adran Addysg a Chyflogaeth (1990 – 1996)
- Aelod o Bwyllgor Lleiafrifoedd Ethnig y Bwrdd Astudiaethau Barnwrol (1992 – 1996). Bu’n gysylltiedig â’r rhaglen hyfforddi Ymwybyddiaeth o Hil ar gyfer y Farnwriaeth.
- Aelod o Fwrdd Parôl Cymru a Lloegr (1988 – 1994)
Cafodd Cecila OBE ym 1996 am ei gwaith ym maes cydraddoldeb
Brig
(fe’i penodwyd ar 1 Ebrill 2007 am dair blynedd, yn dilyn cystadleuaeth agored)
Mae Paula yn Olygydd Gwylwyr yn Channel 4. Mae ei chefndir yn cynnwys profiad mewn hysbysebu, marchnata, darlledu cyhoeddus a masnachol a chyfryngau digidol. Bu hi’n gweithio i’r BBC am ddeng mlynedd cyn ymuno ag ITV i greu sianel ddigidol newydd y mae Granada a Boots ill dau yn berchen arni. Ar ôl gadael ITV, bu’n rhedeg ei chwmni ymgynghori ei hun ym maes cyfathrebu a oedd yn cynghori Cydbwyllgor craffu Puttnam ar Ddeddf Cyfathrebiadau 2002 a chyfrannodd at Adolygiad Phillis o Gyfathrebiadau’r Llywodraeth yn 2003. Mae ei chleientiaid wedi cynnwys Ofcom, Llywodraethwr y BBC, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Tŷ Opera Brenhinol.
Mae Paula yn un o Ymddiriedolwyr a Llywodraethwyr Ysgol St Michael yn Otford ac yn cadeirio Is Bwyllgor Ymgynghorol yr Arglwydd Ganghellor ar gyfer Canol Caint sy’n gyfrifol am recriwtio ynadon.
Brig
(fe’i penodwyd ar 1 Ebrill 2007 am dair blynedd, yn dilyn cystadleuaeth agored)
Mae gan Linda Charlton 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gwaith yn y sector addysg, yn adrannau’r llywodraeth a deng mlynedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, lle y bu’n arwain consortiwm archwilio a oedd yn darparu gwasanaethau i 10 o Ymddiriedolaethau’r GIG. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfrannodd hefyd at brosiect Asiantaeth Datblygu Tramor, a gefnogai datblygiad systemau gofal sylfaenol yn Albania. Rhwng Tachwedd 2000 a Mawrth 2007, bu’n Gyfarwyddwraig Ymchwiliadau Iechyd yn swyddfa'r OSGI, yna’n Gyfarwyddwraig y Rhaglen Newid, cyn dod yn Gyfarwyddwraig Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae gan Linda dros 10 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel Bwrdd, ac mae bellach yn cyfuno'i gwaith fel cyfarwyddwraig anweithredol gydag ymgynghori ym maes rheoli. Mae ganddi brofiad penodol o arwain rhaglenni gwaith sy’n sicrhau newidiadau diwylliannol a gweithredol mewn sefydliadau, a’i phrif ddiddordebau yw gwella gwasanaeth cyhoeddus, ymgysylltiad rhwng staff a rhanddeiliaid, rheoli newid yn effeithiol a chydraddoldeb ac amrywiaeth ar waith.
Brig
|