|
Hafan > Amdanom ni> Ein hanes > Adolygiad Swyddfa’r Cabinet
Sefydlwyd Adolygiad Swyddfa’r Cabinet o Ombwdsmyn y Sector Cyhoeddus gan y Llywodraeth ym 1999 mewn ymateb i gynigion a gyflwynwyd gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol (sy’n cynnwys y tri ombwdsmon llywodraeth leol) a’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Pwrpas yr adolygiad oedd ystyried y trefniadau ar gyfer yr ombwdsmyn yn erbyn y cefndir o wasanaethau cyhoeddus mwy integredig. Roedd gwerth am arian a lles gorau’r achwynwyr yn ffactorau allweddol i’w hystyried. Fe'i cynhaliwyd gan Philip Collcut a Mary Hourihan o Swyddfa’r Cabinet a’i gyhoeddi ar 13 Ebrill 2000.
Ar 15 Mehefin 2000 cyhoeddwyd dogfen ymgynghori gan Swyddfa’r Cabinet ar yr adolygiad, ac ar 13 Medi, cyhoeddodd ombwdsmyn y sector cyhoeddus ymateb ar y cyd i’r ymarfer ymgynghori.
Ar gael hefyd y mae "argraff artist" o sut olwg allai fod i wasanaeth ombwdsmon yn y dyfodol, a luniwyd gan Syr Michael Buckley, yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd bryd hynny, a Jerry White, un o'r tri Ombwdsmon Llywodraeth Leol, a'r datganiad gweinidogol diweddaraf, a wnaed ar 20 Gorffennaf 2001 fel ateb ysgrifenedig
Ym mis Awst 2005, cyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet bapur o’r enw Consultation Paper on the Reform of Public Sector Ombudsmen Services in England.
Drwy gyfrwng y diwygiadau a gynigir, sy’n elfen bwysig o Raglen Diwygio’r Gwasanaeth Cyhoeddus, bydd tri phrif Ombwdsmon y sector cyhoeddus, yr Ombwdsmon Seneddol, Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd a’r Ombwdsmyn Llywodraeth Leol yn gallu cydweithio’n fwy effeithiol a darparu gwasanaeth mwy effeithiol a symlach i achwynwyr.
|