|
Hafan > Amdanom ni> Ein hanes > Deddfwriaeth > Y ddeddfwriaeth ar gyfer Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr
Mae Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd (neu Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd) Lloegr yn cael ei phwerau bron yn gyfan gwbl oddi wrth Ddeddf Comisiynwyr Gwasanaethau Iechyd 1993.
Isod amlinellir y newidiadau hynny a wnaethpwyd i Ddeddf 1993 sydd yn dal i fod yn berthnasol, a deddfwriaeth arall sy’n effeithio’n benodol ar bwerau’r Ombwdsmon, ar ôl nodyn cryno am y cefndir.
1. Y Cefndir i Ddeddf 1993 ac Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Lloegr
2. Y brif ddeddfwriaeth sy’n diwygio Deddf 1993
3. Deddfwriaeth sydd (bellach) yn effeithio ar ddim ond un adran o Ddeddf 1993
4. Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor (dan adran 2(5)(b) o Ddeddf 1993)
1. Y Cefndir i Ddeddf 1993 ac Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Lloegr:
Disodlodd Deddf 1993 ddeddfwriaeth gynharach, a geid yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 a Deddf Gwasanaeth Iechyd (yr Alban) 1978, a darparodd ar gyfer Ombwdsmyn Gwasanaeth Iechyd i Loegr, yr Alban a Chymru. (Ombwdsmon Gogledd Iwerddon oedd Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd dros Ogledd Iwerddon, dan ddeddfwriaeth ar wahân.) Ers datganoli, gweithredir deddfwriaeth ar-wahân ar gyfer cwynion am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a’r Alban. (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban sydd bellach yn gyfrifol am gwynion am y GIG yn yr Alban, dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban 2002; ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sydd bellach yn gyfrifol am gwynion am y GIG yng Nghymru dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Diwygiwyd Deddf 1993 fel nad ydyw mwyach, o 23 Hydref 2002, yn ymwneud â chwynion am y GIG yn yr Alban; ac o 1 Ebrill 2006 ymlaen nid yw’n ymwneud mwyach â chwynion am y GIG yng Nghymru. Felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ar wahân i rai darpariaethau’n delio â materion megis cydweithrediad ag ombwdsmyn eraill, nid yw Deddf 1993 ond yn delio ag Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Lloegr.
Yn ôl i'r brig
2. Y brif ddeddfwriaeth sy’n diwygio Deddf 1993:
Deddf Awdurdodau Iechyd 1995, a.2(1) ac atodlen 1, paragraff 126; ac a.5(1) ac atodlen 3:
yn tynnu adran 2(1)(b), yn diddymu adran 2(1)(e), ac yn diwygio adran 14(1).
Deddf Comisiynwyr Gwasanaeth Iechyd (Diwygio) 1996:
yn mewnosod adrannau 2A, 2B, 3(1A) i (1D), 3(5) i (7), 4(4) i (6), 6(5), 7(2)(c), 7(3A) a (3B), 11(1A), 11(1B), 11(5A), 12(1A), 14(2A) i (2D), 15(1)(e), 15(1B) ac (1C), a 15(3), a pharagraff 3A atodlen 1; yn diddymu adrannau 5, 6(1) a (2), 9(5) a (6), a 14(2)(c); yn amnewid adrannau 14(1)(c) a (4); yn diwygio adrannau 7(1) a (2), 14(3), 15(2), ac 19; ynghyd â rhai newidiadau eraill. Prif effaith Deddf 1996 oedd ymestyn cylch gwaith yr Ombwdsmon. Fe’i hymestynnodd i gynnwys cwynion yn erbyn darparwyr gwasanaethau iechyd teulu (fel meddygon teulu) a darparwyr annibynnol a gyflawnai wasanaethau’r GIG; ac i gynnwys cwynion (o fewn telerau Deddf 1993) am faterion clinigol. Fodd bynnag, ni châi’r newidiadau hynny ddim effaith ar weithredoedd a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 1996: gweler adran 14(3) Deddf 1996, a’i gorchymyn cychwyn, SI 1996/970.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997, a.41(1) ac atodlen 2, rhan 1, paragraff 68:
yn diwygio adran 2A(1); ac yn mewnosod adran 3(1ZA).
Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a.112 ac atodlen 10:
yn mewnosod amryfal ddarpariaethau a ddiddymwyd ers hynny gan Ddeddf 2005 a grybwyllir isod; yn diwygio adrannau 1(3) ac 8(2)(a) ac (c); ac yn gwneud amryfal ddiwygiadau i adrannau 14 ac 18 ac atodlen 1, a rhannau eraill, yn sgîl datganoli yng Nghymru.
Deddf Iechyd 1999, a.65(1) ac atodlen 4, paragraff 85; a.65(2) ac atodlen 5; ac a.43:
yn mewnosod adran 2(1)(da); yn diddymu adran 3(1B); ac yn gwneud diwygiadau i adrannau 15 ac 19.
Deddf Comisiynwyr Gwasanaeth Iechyd (Diwygio) 2000:
yn diwygio adrannau 2A(1) a 2B(1)(a) a (b); ac yn mewnosod adrannau 9(4A) a (4B).
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a.76(2) ac atodlen 7, paragraffau 5 a 6:
yn mewnosod adrannau 15(4) ac 18A.
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban 2002, a.25(1) ac atodlen 6, paragraff 14, yn diddymu Deddf 1993 yn gyffredinol ar faterion o fewn gallu datganoledig Senedd yr Alban.
Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002, a.1(3) ac atodlen 1, rhan 2, paragraff 47; a.2(5) ac atodlen 2, rhan 2, paragraff 61; ac a.37(2) ac atodlen 9, rhan 1:
yn amnewid a.2(1)(a); ac yn diwygio adrannau 2(1)(da), 6(3), a 6(5).
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, amryfal ddarpariaethau:
yn mewnosod adrannau 2(1)(db), 3(1E), 11(1C), ac 14(2E) a (2F); yn amnewid adran 2A(1)(a); yn diddymu adran 2(1)(g) (ac a fydd yn diddymu adrannau 2(1)(f) a 4(6) o ddyddiad neu ddyddiadau sydd heb eu pennu eto); ac yn diwygio adrannau 2(1)(c), 2A(1)(c), 4(4)(a), 6(5), 12(1A), ac 18(1).
Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban 2002 (Darpariaethau ac Addasiadau Canlyniadol) 2004 [SI 2004/1823], erthygl 17:
yn diddymu amryfal ddarpariaethau’n ymwneud â’r Alban (adrannau 1(1)(c), 2(3), 2A(3), 2B(3), ac ati); yn gwneud diwygiadau i adrannau 14 ac 18 ac atodlen 1; ac yn gwneud mân newidiadau mewn mannau eraill.
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, a.39(1) ac atodlen 6, paragraffau 27 i 54:
yn diddymu amryfal ddarpariaethau’n ymwneud â Chymru (adrannau 1(1)(b), 2(2), 2A(2), 2B(2), ac ati); yn amnewid adrannau 2(6) ac 18(1)(ba); yn diddymu a.18(1)(a); ac yn gwneud llu o fân newidiadau mewn mannau eraill.
Yn ôl i'r brig
3. Deddfwriaeth sydd (bellach) yn effeithio ar ddim ond un adran o Ddeddf 1993:
Diwygiwyd adran 2 gan:
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Lleol a.y.b.) 2002 [SI 2002/2861], rheoliad 26, (trwy fewnosod adran 2A(1)(d)).
Diwygiwyd adran 8 gan:
Gorchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 [SI 1999/1820], erthygl 4 ac atodlen 2, rhan 1, paragraff 112, (trwy ddiwygio adran 8(2)(c)(ii)).
Diwygiwyd adran 18 gan:
Deddf Tai 2004, a.265(1) ac atodlen 15, paragraff 37; ac a.266 ac atodlen 16; (trwy wneud sawl diwygiad i’r adran, wedi’u goddiweddyd i raddau helaeth ers hynny gan newidiadau eraill).
Diwygiwyd adran 19 gan:
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a.66(6) ac atodlen 16, paragraff 108; ac a.6(8) ac atodlen 18.
Yn ôl i'r brig
4. Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor (dan adran 2(5)(b) o Ddeddf 1993):
Mae’r rhain yn dynodi awdurdodau iechyd arbennig sy’n destun cylch gwaith yr Ombwdsmon dan adran 2(1)(c) Deddf 1993. Mae’r Gorchmynion sy’n dal mewn grym, a’r awdurdodau y maent yn dal i effeithio arnynt, fel a ganlyn:
Gorchymyn Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr (Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl) 1983 [SI 1983/1114], (dan ddeddfwriaeth gynharach):
Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Gorchymyn Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr (Awdurdodau Iechyd Arbennig) 2004 [SI 2004/1119]:
Awdurdod Logisteg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Gorchymyn Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr (Awdurdodau Iechyd Arbennig) 2005 [SI 2005/251]:
Awdurdod Ymgyfreitha'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
Y Sefydliad Cenedlaethol er Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (y Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth Glinigol gynt);
Yr Asiantaeth Genedlaethol dros Ddiogelwch Cleifion;
Yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Triniaethau [am Gamddefnydd Sylweddau];
Gwasanaeth Atal Twyll a Rheoli Diogelwch;
Awdurdod Iechyd Arbennig gweithwyr proffesiynol y GIG;
Galw Iechyd Cymru; ac
Asiantaeth Pensiynau’r GIG, [ond yn yr achos hwnnw gw. adran 7(1) Deddf 1993].
Gorchymyn Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr (Awdurdodau Iechyd Arbennig) (Rhif 2) 2005 [SI 2005/3428]:
Sefydliad y GIG er Arloesi a Gwella; Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG; a
Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
[DALIER SYLW: Bydd unrhyw awdurdod iechyd arbennig sy’n ateb y disgrifiad a roddir yn adran 2(1)(c) ac a sefydlwyd ar neu cyn 1 Ebrill 1974 yn dod o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon heb fod angen Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor. (Gweler adran 2(5)(a) Deddf 1993.) Daw’r Awdurdod Prisio Presgripsiynau o dan adran 2(1)(c) am y rheswm hwnnw. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol ar 1 Mawrth 1974, dan SI 1974/9, (a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan orchmynion eraill).]
Yn ôl i'r brig
|