|
Hafan > Amdanom ni> Ein hanes > Deddfwriaeth > Y ddeddfwriaeth ar gyfer yr Ombwdsmon Seneddol
Caiff yr Ombwdsmon Seneddol (neu'r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth) ei phwerau bron yn gyfan gwbl gan Ddeddf y Comisiynydd Seneddol 1967, fel y’i diwygiwyd ers hynny.
Gan anwybyddu newidiadau sydd bellach wedi’u disodli gan newidiadau mwy diweddar, gwnaethpwyd y newidiadau canlynol i Ddeddf 1967, a'r newidiadau eraill o ran pwerau’r Ombwdsmon.
1. Y prif ddeddfau sydd wedi diwygio Deddf 1967
2. Deddfwriaeth nad ydynt ond yn effeithio ar un adran neu atodlen o Ddeddf 1967
3. Deddfwriaethau eraill sy’n effeithio ar bwerau’r Ombwdsmon Seneddol
Mae Deddfau Seneddol er 1988 ac Offerynnau Statudol er 1987 ar gael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus drwy glicio ar y dolennau. Dylech allu cael gafael ar gopi papur o’r eitemau a gyhoeddwyd cyn y dyddiadau hyn mewn unrhyw lyfrgell gyfeirio dda. Os cewch drafferth i ddod o hyd i unrhyw eitem, mae croeso i chi gysylltu â ni.
1. Y prif ddeddfau sydd wedi diwygio Deddf 1967:
Deddf y Comisiynydd Seneddol (Cwynion Consylaidd) 1981; (diwygiwyd adran 6(4) a mewnosodwyd adran 6 (5)).
Deddf Comisiynwyr y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd 1987; (gwnaethpwyd amrywiol newidiadau).
Deddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990, a.110; (mewnosodwyd adran 5(6), a pharagraff 6A atodlen 3).
Deddf y Comisiynydd Seneddol 1994; (mewnosodwyd adrannau 5(7) i (9); paragraff 6B atodlen 3; ac atodlen 4).
Deddf Digolledu am Anafiadau Troseddol 1995, a.10(1); (mewnosodwyd adran 11B, a pharagraff 6B atodlen 3).
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a.125 ac atodlen 12, paragraffau 4 i 8; (diwygiwyd adrannau 3, 4, 11, ac 11A).
Deddf yr Alban 1998 Gorchymyn (Addasiadau Ôl-ddilynol) (Rhif 2) 1999 [OS 1999/1820], erthygl 4 ac atodlen 2, paragraff 39; (diwygiwyd adrannau 4 a 6, a mewnosodwyd adrannau 5(5A), 5(5B) a 5(9A)).
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a.76(2) ac atodlen 7, paragraff 1; (mewnosodwyd adrannau 11(5) ac 11AA).
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Alban 2002 Gorchymyn (Darpariaethau Ôl-ddilynol ac Addasiadau) 2004 [OS 2004/1823], erthygl 5; (diwygiwyd adrannau 3 ac 11, gan gynnwys mewnosod adran 11A(2A).
Deddf Trais yn y Cartref, Troseddau a Dioddefwyr 2004, adran 47 ac atodlen 7; (mewnosodwyd amrywiol ddarpariaethau i alluogi’r Ombwdsmon i ddelio gyda chwynion dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau, pan ddaw hwnnw i rym).
Gorchymyn y Comisiynydd Seneddol 2005 [OS 2005/249]; (mewnosodwyd fersiynau newydd o atodlenni 2 a 4).
Yn ôl i'r brig
2. Deddfwriaeth nad ydynt ond yn effeithio ar un adran neu atodlen o Ddeddf 1967
Diwygiwyd Adran 1 gan:
Ddeddf Datgymhwysiad Tŷ’r Cyffredin 1975, a.10(2) ac atodlen 3.
Deddf Datgymhwysiad Cynulliad Gogledd Iwerddon 1975, a5(2) ac atodlen 3, rhan I.
Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1971, a.18(2) ac atodlen 4, rhan I.
Diwygiwyd Adran 2 gan:
Ddeddf Pensiynau a Chyflogau Seneddol ac Eraill 1976, a.6(2) a (4), a.9(2), a’r atodlen.
Diwygiwyd Adran 5 gan:
Orchymyn Cyflogaeth a Thriniaeth Deg (Gogledd Iwerddon) 1998 [OS 1998/3162 (GI 21)], erthygl 105(1) ac atodlen 3.
Diwygiwyd Adran 8 gan:
Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1968, a.17(1)(b).
Diwygiwyd Adran 11 gan:
Ddeddf Cyfrinachau Sifil 1989, a.16(3) ac atodlen 1, paragraff 1(a); ac a.16(4) ac atodlen 2.
Diwygiwyd Adran 11A gan:
Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993, a.20(1) ac atodlen 2, paragraff 1.
Deddf Tai 2004, a.265(1) ac atodlen 15, paragraff 1; (yr unig ddiwygiadau sydd wedi dod i rym yw’r rheini sy’n berthnasol i Gymru).
Diwygiwyd Adran 13 gan:
Orchymyn (Addasu Deddfiadau – Rhif 1) Gogledd Iwerddon 1999 [OS 1999/663], erthygl 2(1) ac atodlen 1, paragraff 14.
Atodlen 1 :
Disodlwyd yr Atodlen hon gan Ddeddf Pensiynau ac Ymddeoliad Barnwyr 1993, a.25 ac atodlen 4, rhan II, paragraff 2.
Ers hynny, cafodd rhai swyddogaethau dan yr atodlen eu trosglwyddo gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (y Trysorlys a’r Gweinidog dros Wasanaeth Sifil) 1995 [OS 1995/ 269], erthyglau 3 a 5(2), a’r atodlen; ac fe’i ddiwygiwyd gan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993, a.190 ac atodlen 8, paragraff 1, a gan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn (Gogledd Iwerddon) 1993, a.184 ac atodlen 7, paragraff 7.
Diwygiwyd Atodlen 2 (fel y’i disodlwyd gan OS 2005/249) gan y ddeddfwriaeth ganlynol:
Deddf Cwmnïau ( Archwilio, Ymchwiliadau a Mentrau Cymunedol) 2004, a.28 ac atodlen 4, paragraff 5.
Deddf Dŵr 2003, a.101(1) ac atodlen 7, rhan 2, paragraff 18(a).
Deddf Meinweoedd Dynol 2004, adran 13(2) ac atodlen 2, paragraff 24.
Deddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004, a.11 ac atodlen 4.
Deddf Pensiynau 2004, a.3 ac atodlen 1, rhan 6, paragraff 33; ac a.320 ac atodlen 13, rhan 1.
Deddf Betio ar Rasio Ceffylau a’r Loteri Olympaidd 2004, a.29(2) ac atodlen 5, paragraff 10.
Deddf Rheilffyrdd 2005, a.59(6) ac atodlen 13, rhan 1.
Deddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005, a.50(6) ac atodlen 4, paragraff 10; ac a.52(2) ac atodlen 5.
Deddf Hapchwarae 2005, a.356(1) ac atodlen 16, rhan 2, paragraff 5.
Deddf Addysg 2005, a.98 ac atodlen 14, paragraff 2; ac a.123 ac atodlen 19, rhan 3.
Atodlen 3 :
Diwygiwyd paragraff 2 gan: Orchymyn y Comisiynydd Seneddol 1979 [OS 1979/915] a Gorchymyn y Comisiynydd Seneddol (Rhif 2) 1988 [OS 1988/1985].
Diwygiwyd paragraff 4 gan: Ddeddf Estraddodi 1989, a.36(1).
Diwygiwyd paragraff 7 gan Ddeddf Apeliadau Troseddol 1995, a.29 ac atodlen 3.
Gwnaethpwyd amrywiol ddiwygiadau i Baragraff 8 dros y blynyddoedd: mae manylion ar gael ar gais.
Diwygiwyd Paragraff 10 gan Orchymyn y Comisiynydd Seneddol 1983 [OS 1983/1707].
Diwygiwyd Atodlen 4 (fel y’i disodlwyd gan OS 2005/249) gan:
Ddeddf Addysg 2005, a.61 ac atodlen 9, paragraff 1; ac a.123 ac atodlen 19, rhan 1.
Yn ôl i'r brig
3. Deddfwriaethau eraill sy’n effeithio ar bwerau’r Ombwdsmon Seneddol:
Deddf Gogledd Iwerddon 1998, a.78; ac a.95(5) ac atodlen 12
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a.25(4) ac atodlen 5, paragraff 9.
Deddf y Comisiynydd Cyllid a Thollau 2005, a.28.
Yn ôl i'r brig
|