|
Hafan > Amdanom ni > Polisïau > Polisi Mynediad at Wybodaeth
Rydym eisiau gweithredu mewn modd sydd mor agored a thryloyw â phosibl. Ac felly, croesawn yr hawliau mynediad at wybodaeth a nodir yn Neddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Fodd bynnag, oherwydd natur ein gwaith, cesglir toreth o wybodaeth sensitif a chyfrinachol yn ystod ein hymchwiliadau. Gall rhyddhau’r wybodaeth hon beri niwed gwirioneddol i'r unigolion dan sylw neu fe allai beryglu’r canlyniad terfynol. Golyga hyn fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng ein dymuniad i weithredu’n agored a'n dyletswydd i warchod preifatrwydd gwybodaeth bersonol a chyfrinachol arall. Yn yr un modd, mae'n bosib y bydd rhaid i ni ystyried a yw rhyddhau gwybodaeth er budd y cyhoedd. Cydnabyddir y cydbwysedd bregus hwn yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ei hun sydd, er enghraifft, yn datgan yn glir nad yw gwybodaeth a gesglir ar gyfer ymchwiliad, fel arfer, ar gael i neb heblaw’r Ombwdsmon a'i staff.
Gallwn ac yr ydym yn darparu llawer iawn o wybodaeth arall am y ffordd yr ydym yn gweithio. Rydym yn cyhoeddi toreth o wybodaeth ar ein gwefan www.ombudsman.org.uk am ein polisïau, gweithdrefnau a gweithgareddau. Rhestrir y deunydd hwn yn ein cynllun cyhoeddi a chaiff ei ddiweddaru a'i adolygu'n rheolaidd.
Os nad yw’r wybodaeth ar gael yno, byddwn yn ateb pob cais rhesymol am wybodaeth nad yw’n dod o dan yr eithriadau penodol a geir yn y Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.
Ni fyddwn fel arfer yn codi tâl am geisiadau am wybodaeth a wneir yn 2005. Byddwn yn adolygu pa mor gynaliadwy yw hyn ar gyfer 2006. Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl am lungopïo a phostio.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn cefnogi’r angen i gadw gwybodaeth a gesglir ar gyfer ymchwilio i gŵyn yn gyfrinachol. Er hynny, gall unigolion sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad gael mynediad at wybodaeth amdanynt eu hunain fel rhan o’r Ddeddf Diogelu Data.
Yn gyffredinol, mae’r ffactorau y mae'n rhaid i ni eu hystyried wrth ddod i’n penderfyniad ynglŷn â beth y gallwn ei ddatgelu yn cynnwys:
- beth a ddywedir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am ddatgelu gwybodaeth a gafwyd at bwrpas ymchwiliad
- ein dyletswydd o ran cyfrinachedd a’n dyletswydd i barchu preifatrwydd y rhai sy’n rhan o’r ymchwiliad
- gofynion cyfreithiol eraill, gan gynnwys y Ddeddf Diogelu Data, am ddatgelu gwybodaeth (megis lle mae swyddog iechyd proffesiynol priodol yn cadarnhau y byddai datgelu cofnodion iechyd yn peri niwed difrifol i iechyd unigolyn)
- ac ystyriaethau gweithredol (er enghraifft, lle byddai effaith darparu’r wybodaeth yn tarfu ar allu'r Ombwdsmon i gwblhau ymchwiliad yn foddhaol, neu lle rydym wedi ymateb yn flaenorol i gais am wybodaeth a chyfnod rhesymol o amser heb fynd heibio ers y cais hwnnw).
Adolygir y polisi hwn yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2007.
Tachwedd 2004
|