| |
Hafan > Amdanom ni > Polisïau > Datganiad Amrywiaeth
Mae’r datganiad hwn ar ein hagwedd at amrywiaeth yn rhoi sylw i’n cyfrifoldebau fel darparwr gwasanaeth i'r cyhoedd ac fel cyflogwr
Rydym wedi ymrwymo i fodloni anghenion gwahanol y gymuned amrywiol a wasanaethir gennym o fewn fframwaith ein Rôl a gwerthoedd penodedig. Anelwn at gyflawni hyn drwy’r canlynol:
- hyrwyddo mynediad cyfartal i’n gwasanaethau ar gyfer holl aelodau’r gymuned
- pennu gydag achwynwyr a phartïon eraill i gŵyn eu hanghenion unigol a'u disgwyliadau
- esbonio’n glir wrthynt beth y gallwn ei wneud i fodloni’r anghenion hynny, a phan na allwn eu bodloni, trosglwyddo’u pryderon (gyda’u cydsyniad) i asiantaeth briodol
- sicrhau bod ein prosesau busnes a’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu yn ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n holl gwsmeriaid a rhanddeiliaid
- a chreu diwylliant gwaith sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cynhwysiant a pharch ac sy’n grymuso ein staff i arddangos y gwerthoedd hynny yn eu gwaith gyda’r cyhoedd a'r holl randdeiliaid eraill.
Medi 2004
|
 |