|
Hafan > Amdanom ni > Polisïau > Polisi ar ymddygiad annerbyniol
1. Yn aml, yr Ombwdsmon yw’r dewis olaf i gwsmeriaid sy’n gwneud cwynion i’r Swyddfa hon. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd hefyd i sicrhau diogelwch a lles ein holl staff.
2. Yr ydym wedi ymrwymo i ddelio â’n holl gwsmeriaid yn deg ac yn ddiduedd ac i ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, ni fyddwn fel arfer yn cyfyngu ar y cyswllt sydd rhwng cwsmeriaid a’r Swyddfa hon. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i’n staff ddioddef ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid, er enghraifft ymddygiad difrïol, sarhaus neu fygythiol, a byddwn yn cymryd camau i amddiffyn ein staff rhag yr ymddygiad hwnnw.
3. Pan fyddwn o'r farn bod ymddygiad cwsmer yn annerbyniol, byddwn yn dweud wrthynt pam ein bod yn meddwl hynny ac yn gofyn iddynt ei newid. Os bydd yr ymddygiad annerbyniol yn parhau, cymerwn gamau i gyfyngu ar y cysylltiad rhwng y cwsmer a’n Swyddfa.
4. Y Cyfarwyddwr (neu aelod uwch o staff) fydd yn penderfynu a ddylid cyfyngu ar fynediad i’n Swyddfa. Bydd unrhyw gyfyngiadau a orfodir yn briodol ac yn gymesur â'r ymddygiad dan sylw. Y dewisiadau yr ydym fwyaf tebygol o’u hystyried fydd:
• gofyn i rywun gysylltu â ni ar ryw ffurf arbennig (er enghraifft drwy lythyr yn unig);
• gofyn i rywun gysylltu â swyddog penodol;
• cyfyngu galwadau ffôn i ddiwrnodau ac amserau penodol; a/neu
• gofyn i’r cwsmer lofnodi cytundeb ynghylch eu hymddygiad
5. Ymhob achos, byddwn yn ysgrifennu at yr achwynydd i ddweud pam ein bod yn teimlo bod eu hymddygiad yn annerbyniol, pa gamau a gymerir ac am faint y bydd hynny’n parhau. Byddwn hefyd yn dweud wrthynt sut y gallant herio’r penderfyniad os byddant yn anghytuno ag ef.
6. Os bydd cwsmer yn dal i ymddwyn mewn ffordd annerbyniol, mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu terfynu’r cysylltiad â’r cwsmer hwnnw.
7. Os yw’r ymddygiad mor eithafol nes iddo fygwth diogelwch a lles staff yr Ombwdsmon, neu unrhyw un arall, yn y fan a'r lle, byddwn yn ystyried dewisiadau eraill, er enghraifft dweud wrth yr Heddlu neu gymryd camau cyfreithiol. Dan amgylchiadau o’r fath, mae'n bosibl na fyddwn yn rhoi rhybudd i’r cwsmer ymlaen llaw.
Medi 2008
Back to top
|