|
Hafan > Amdanom ni > Polisïau > Achwynwyr afresymol o barhaus
1. Yn aml, yr Ombwdsmon yw’r dewis olaf i gwsmeriaid sy’n gwneud cwynion i’r Swyddfa hon. Fodd bynnag, yr ydym hefyd yn atebol am ddefnyddio arian cyhoeddus yn briodol a rhaid inni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario’n ddoeth ac yn rhoi gwerth i’r rheini sy’n cwyno ac i’r cyhoedd.
2. Yr ydym wedi ymrwymo i ddelio â’n holl gwsmeriaid yn deg ac yn ddiduedd ac i ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, ni fyddwn fel arfer yn cyfyngu ar y cyswllt sydd rhwng y cwsmeriaid a’r Swyddda hon. Fodd bynnag, mae nifer fechan o bobl sydd, oherwydd eu bod yn cysylltu mor aml â’r Swyddfa hon, yn ein llesteirio wrth inni ystyried eu cwynion neu gwynion pobl eraill. Cyfeiriwn at bobl o’r fath fel pobl sy’n arddangos ‘ymddygiad parhaus’ ac, mewn achosion eithriadol, lle bydd y cyswllt hwn yn afresymol, byddwn yn cymryd camau i gyfyngu ar eu cyswllt â’r Swyddfa hon.
3. Pan fyddwn yn ystyried bod lefel cyswllt cwsmer yn afresymol o barhaus, byddwn yn dweud wrthynt pam ein bod o’r gred bod eu hymddygiad yn dod o dan y categori hwn, ac yn gofyn iddynt ei newid. Os bydd yr ymddygiad yn parhau, cymerwn gamau i gyfyngu ar gysylltiad y cwsmer â’n Swyddfa.
4. Y Cyfarwyddwr (neu aelod uwch o staff) fydd yn penderfynu a ddylid cyfyngu ar fynediad i’n Swyddfa. Bydd unrhyw gyfyngiadau a orfodir yn briodol ac yn gymesur â'r ymddygiad dan sylw. Y dewisiadau yr ydym fwyaf tebygol o’u hystyried fydd:
• gofyn i rywun gysylltu â ni ar ryw ffurf arbennig (er enghraifft drwy lythyr yn unig);
• gofyn i rywun gysylltu â swyddog penodol;
• cyfyngu galwadau ffôn i ddiwrnodau ac amserau penodol; a/neu
• gofyn i’r cwsmer lofnodi cytundeb ynghylch eu hymddygiad
5. Ymhob achos, byddwn yn ysgrifennu at yr achwynydd i ddweud pam ein bod yn teimlo bod eu hymddygiad yn annerbyniol, pa gamau a gymerir ac am faint y bydd hynny’n parhau. Byddwn hefyd yn dweud wrthynt sut y gallant herio’r penderfyniad os byddant yn anghytuno ag ef.
6. Os bydd cwsmer yn dal i ymddwyn mewn ffordd sy’n afresymol o barhaus, mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu terfynu’r cysylltiad â’r cwsmer hwnnw.
7. Os yw’r ymddygiad mor eithafol nes iddo fygwth diogelwch a lles staff yr Ombwdsmon, neu unrhyw bobl eraill, yn y fan a'r lle, byddwn yn ystyried dewisiadau eraill, er enghraifft dweud wrth yr Heddlu neu gymryd camau cyfreithiol. Dan amgylchiadau o’r fath, mae'n bosibl na fyddwn yn rhoi rhybudd i’r cwsmer ymlaen llaw.
Medi 2008
Back to top
|