|
Hafan > Amdanom ni > Rôl a gwerthoedd
Mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI) yn bodoli er mwyn:
Darparu gwasanaeth i’r cyhoedd drwy gynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion lle gwnaeth adrannau'r llywodraeth, amrediad o gyrff cyhoeddus eraill yn y DU a'r GIG yn Lloegr weithredu’n amhriodol ac yn annheg, neu lle gwnaethant ddarparu gwasanaeth gwael.
- sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael i bawb sydd ei angen
- gweithredu prosesau agored, tryloyw, teg ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
- deall cwynion ac ymchwilio iddynt yn drylwyr, yn gyflym ac yn ddiduedd, a sicrhau canlyniadau priodol
- rhannu'r hyn a ddysgir er mwyn sicrhau gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma’r gwerthoedd sy’n sail i’n holl waith:
Rhagoriaeth
Anelwn at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl:
- ceisiwn adborth er mwyn gallu dysgu a sicrhau gwelliant parhaus
- mae gennym brosesau trwyadl er mwyn dod i benderfyniadau cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- rydym wedi ymrwymo i alluogi a datblygu ein staff er mwyn iddynt allu darparu gwasanaeth rhagorol.
Arweinyddiaeth
Arweiniwn drwy esiampl a chredwn y dylai ein gwaith gael effaith gadarnhaol:
- gosodwn safonau uchel i ni ein hunain ac i eraill
- rydym yn fodel i’w efelychu ac yn darparu cyngor rhagorol yn y maes ymdrin â chwynion
- rhannwn yr hyn a ddysgwn er mwyn sicrhau gwelliant.
Didwylledd
Rydym yn agored, yn onest ac yn ddidwyll yn ein holl waith, a defnyddiwn amser, arian ac adnoddau’n effeithiol:
- rydym yn gyson ac yn dryloyw yn ein gweithredoedd a’n penderfyniadau
- rydym yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ac yn dal ein hunain yn atebol am bopeth a wnawn
- rydym yn trin pobl yn deg.
Amrywiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi pobl a’u hamrywiaeth ac ymdrechwn i fod yn gynhwysol:
- parchwn eraill, waeth beth fo’n gwahaniaethau personol
- gwrandawn ar eraill er mwyn deall eu hanghenion a theilwra'n gwasanaeth yn unol â hynny
- hyrwyddwn fynediad cyfartal i’n gwasanaeth ar gyfer holl aelodau’r gymuned.
Bydd y gwerthoedd hyn yn sail i’n hymddygiad, fel sefydliad ac fel unigolion yn gweithio yn swyddfa'r Ombwdsmon.
Brig
|