|
Hafan > Hygyrchedd
Gwefannau hygyrch
Disodli ein dalennau arddull
Newid maint ffont
Cydweddoldeb porwyr
Llwytho ffeiliau i lawr
Sut i ddefnyddio'r safle hwn
Chwilio
Credwn y dylai gwefannau fod mor hygyrch ag sy’n rhesymol bosibl. Oherwydd hyn, rydym wedi llunio'n safle i fodloni lefel gyntaf canllawiau hygyrchedd Consortiwm y We Fyd Eang (W3C), a elwir yn lefel A.
Gallwch ddefnyddio eich ffontiau, lliwiau neu ddalen arddull eich hun wrth edrych ar ein safle trwy roi eich gosodiadau eich hun i’r porwr.
Gyda Microsoft Internet Explorer for Windows, fersiynau 5.0 ac uwch, dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd (Internet Options) o’r ddewislen Offer (Tools), wedyn dewiswch Cymorth Arbennig (Accessibility) o'r tab Cyffredinol (General) yn y ffenestr sydd wedi ymddangos.
Yn Microsoft Internet Explorer ar gyfer fersiynau Mac 5.0 a mwy diweddar, dewiswch Preferences o’r ddewislen Edit neu Explorer yn dibynnu ar ba system Mac yr ydych yn ei defnyddio. Wedyn dewiswch Web Browser o’r tabiau ochr a Web Content oddi tano.
Yn Netscape Navigator fersiynau 6.0 neu uwch, dewiswch Preferences o'r ddewislen Edit (o'r ddewislen Netscape yn Mac system X) ac wedyn Appearance o'r ddewislen ochr ac wedyn naill ai Fonts neu Colours.
Brig
Os gwelwch fod y testun ar ein safle yn ymddangos naill ai'n rhy fawr neu'n rhy fach, gallwch ei newid trwy reoliadau eich porwr gwe.
Yn Microsoft Internet Explorer fersiynau 5.0 ac uwch, o’r ddewislen Gweld (View) dewiswch naill ai Maint Testun (Text Size) ar gyfer fersiwn Windows neu Text Zoom ar gyfer fersiwn Mac.
Gyda Netscape Navigator fersiynau 6.0 neu fwy diweddar, dewiswch Text Zoom o'r ddewislen View.
Brig
Mae ein safle wedi'i lunio i weithio gyda phob un o'r porwyr gwe poblogaidd, ond efallai y bydd defnyddwyr fersiynau hŷn yn cael problemau gyda rhai tudalennau. Er mwyn cael y cydweddoldeb gorau, argymhellwn eich bod yn defnyddio un o’r porwyr canlynol:
Brig
Gallwch lwytho llawer o gyhoeddiadau i lawr o’n safle ar gyfer eu hargraffu a’u darllen. Mae’r rhan fwyaf o'r dogfennau'n cael eu cadw fel ffeiliau Word neu PDF a byddwch angen meddalwedd priodol i'w hagor.
Rydym yn gweithio tuag at gyhoeddi fersiwn HTML ychwanegol o’r holl ddogfennau y gellir eu llwytho i lawr, a fydd ar gael i chi edrych arnynt yn eich porwr gwe heb orfod agor cymhwysiad arall.
Brig
I weld ac argraffu ffeiliau PDF (Portable Document Format), bydd angen y meddalwedd rhad ac am ddim Adobe Reader (Adobe Acrobat Reader gynt) arnoch. Os nad yw Adobe Reader gennych yn barod, gallwch ei lwytho i lawr yn www.adobe.com. Dilynwch y ddolen ‘Get Adobe Reader’.
Dylai ein holl ffeiliau PDF weithio gyda fersiwn 4.0 Adobe Acrobat Reader a’r rhai mwy diweddar.
Mae Adobe hefyd yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg yn access.adobe.com.
Brig
Gallwch weld ac argraffu ffeiliau Word Microsoft o Microsoft Word ei hun neu drwy sawl pecyn prosesu geiriau arall. Mae Microsoft yn cynnig y Microsoft Word Viewer am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows nad oes ganddynt brosesydd geiriau addas. Mae ar gael yn adran Office www.microsoft.com.
Chwilio
Mae blwch chwilio ar bob tudalen o'r safle y gallwch ei ddefnyddio i chwilio holl destun ein tudalennau.
Brig
|