|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno> Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Sut i gwyno
Mae dau brif gam y mae angen i chi eu dilyn i gyflwyno’ch cwyn.
Rydym yn disgwyl i chi gysylltu â'r sefydliad dan sylw er mwyn rhoi cyfle iddo ymateb a cheisio unioni pethau.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r ateb a gewch, neu os na fyddwch yn derbyn ateb, dylech anfon eich cwyn at AS a fydd yn penderfynu a ddylid ei throsglwyddo i'r Ombwdsmon.
Gallwch ganfod pwy AS, trwy fynd i’r lleolydd etholaethau. Fel arall, ffoniwch ein Llinell Gymorth neu Wasanaeth Gwybodaeth Tŷ'r Cyffredin ar 020 7219 4272.
Os ydych ond yn megis dechrau’r broses gwyno mae’n bosib y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar ein harweiniad i wneud cwyn erbyn y GIG, un o asiantaethau neu adrannau’r llywodraeth sy’n cynnwys cyngor cyffredinol am sut i gwyno yn effeithiol a chyda lwc bydd yn help i’ch cwyn gael ei datrys yn fuan.
Y ffordd hawsaf o gyflwyno’ch cwyn yw defnyddio’r ffurflen a ddarperir yn y daflen hon. Argymhellwn eich bod yn cysylltu â'n Llinell Gymorth ar 0845 015 4033 i gael cyngor ar lenwi'ch ffurflen.
Sylwch na fydd yr Ombwdsmon fel arfer yn ymchwilio i gŵyn a anfonir at AS fwy na 12 mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol fod gennych reswm da dros gwyno. Ffoniwch ein Llinell Gymorth, neu anfon llythyr neu e-bost atom, os ydych yn meddwl bod hyn yn berthnasol i chi.
<< Blaenorol / Nesaf >>
|