|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Sut byddwn yn delio â’ch cwyn
Rydym bob amser yn chwilio am y ffordd orau i ddatrys pob cwyn unigol a chael canlyniad boddhaol.
Pan anfonir eich cwyn atom gan AS, byddwn yn edrych arni, ac unrhyw ddeunydd ategol, i weld a yw’r gŵyn yn un y gallwn ni ddelio â hi.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a AS pa gamau y byddwn yn eu cymryd. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnom i benderfynu a allwn fwrw ymlaen â’ch cwyn, byddwn yn cysylltu â chi.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Yn fuan wedyn byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio sut y byddwn yn delio gyda'ch cwyn. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi hefyd i drafod manylion eich cwyn a beth yr hoffech i ni ei wneud i unioni pethau.
Efallai y gallwn gael canlyniad boddhaol i chi dim ond trwy'r ddefnyddio'r dystiolaeth y byddwch wedi'i darparu neu drwy ffonio'r sefydliad perthnasol. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd rhaid i ni gynnal ymchwiliad manwl. Mae hyn fel arfer yn golygu ysgrifennu at y sefydliad i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnom a chyfweld rhai o’r bobl sy’n gysylltiedig â’r gŵyn, gan gynnwys chi.
Byddwn yn gadael i chi a AS wybod beth yw ein bwriadau a darparu gwybodaeth yn rheolaidd am yr hyn sy’n digwydd gyda'ch cwyn. Ar ddiwedd ein hymchwiliad byddwn yn anfon llythyr neu adroddiad atoch chi a AS yn esbonio ein penderfyniad terfynol.
Os nad ydych yn hapus gyda’n gwasanaeth ar unrhyw gam o'r broses, rhowch wybod i ni.
Brig
<< Blaenorol / Nesaf >>
|