|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Sut yr ydym yn gweithio
Pan fyddwn yn derbyn eich cwyn, byddwn yn edrych yn ofalus arni i benderfynu a allwn helpu.
Mae ein hymchwilwyr yn gallu edrych ar ffeiliau sefydliadau a chyfweld eu staff am eich achos yn fanwl.
- Mae’n gwasanaeth yn rhad ac am ddim
- Rydym yn gwrando ar ddadleuon y ddwy ochr
- Rydym yn parchu eich preifatrwydd
- Rydym yn annibynnol ar y Llywodraeth ac mae gennym bwerau eang i ymchwilio
- Byddwn yn eich trin yn deg ac yn ddiduedd beth bynnag yw eich cefndir neu amgylchiadau
Cyn cysylltu â ni, dylech geisio cwyno wrth y sefydliad perthnasol. Ar ôl gwneud hyn, os nad ydych yn cael ateb boddhaol gan y sefydliad neu os nad ydych wedi cael ymateb, gofynnwch i AS anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon.
Mae pwerau a chyfrifoldebau’r Ombwdsmon wedi’u nodi mewn Deddf Seneddol (Deddf Comisiynydd Seneddol 1967) sy’n datgan bod yn rhaid i gwynion gael eu hanfon atom drwy Aelodau Seneddol (ASau).
Os nad ydych yn gwybod pwy eich AS, gallwch ddod o hyd iddo trwy fynd i’r lleolydd etholaethau. Fel arall, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0845 015 4033 neu Wasanaeth Gwybodaeth Tŷ’r Cyffredin ar 020 7219 4272.
Brig
<< Blaenorol / Nesaf >>
|