|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Cod y Dioddefwyr – Sut mae cwyno
Sut mae cwyno
Daw Cod y Dioddefwyr i rym ym mis Ebrill 2006 ac mae’n nodi safon sylfaenol o wasanaeth y disgwylir i asiantaethau cyfiawnder troseddol ei darparu ar gyfer dioddefwyr troseddau o fis Ebrill 2006 ymlaen. Mae’r gwasanaeth hwnnw’n amrywio o sicrhau bod dioddefwyr yn cael gwybod yn rheolaidd am y cynnydd gyda’u hachos; canlyniad gwrandawiadau llys; amodau mechnïaeth troseddwyr; apeliadau sydd yn yr arfaeth; materion ôl-ddedfrydu a cheisiadau am iawndal i ddarparu cymorth i ddioddefwyr yn y llys.
Mae’r Ombwdsmon Seneddol yn darparu gwasanaeth trin cwynion ar gyfer dioddefwyr troseddau sydd am gwyno ynghylch y ffordd y mae unrhyw un o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol wedi cyflawni ei dyletswyddau dan y Cod ac sydd wedi methu â chael trin eu cwyn yn foddhaol gan yr asiantaeth dan sylw.
Os ydych chi wedi dioddef yn sgîl trosedd yng Nghymru neu Loegr a’ch bod yn credu bod asiantaeth cyfiawnder troseddol wedi methu â rhoi’r gwasanaeth i chi a nodir yn y Cod i Ddioddefwyr, dylech gysylltu â AS, a all wedyn gyfeirio’ch cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol. Ceir rhestr o asiantaethau cyfiawnder troseddol ar ddiwedd y dudalen hon.
Dyma’r wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi i ni
Pan fyddwch yn cwyno, byddai’n help i ni petaech chi’n gallu rhoi cymaint o wybodaeth ag y bo modd am pam rydych chi’n anfodlon gyda’r ffordd y mae asiantaeth wedi delio â’ch cwyn. Byddai’n help petaech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol, ond peidiwch â phoeni os nad yw’r wybodaeth honno gennych chi:-
• manylion unrhyw sgyrsiau ffôn gyda’r asiantaeth;
• copïau o unrhyw lythyrau rhyngoch chi a'r asiantaeth;
• pa agwedd o God y Dioddefwyr mae’r asiantaeth wedi methu â’i dilyn yn eich golwg chi; a
• chyfeirnod y trosedd a gawsoch chi gan yr heddlu.
Peidiwch ag anfon copïau o unrhyw ddatganiadau a roesoch i'r heddlu fel tyst. Er y bydd yr Ombwdsmon yn ystyried y gwasanaeth a roddwyd i chi dan y Cod i Ddioddefwyr, ni all ystyried yr ymchwiliad i’r trosedd ei hun. Ombwdsmon fel arfer yn ymchwilio i g ŵ yn a anfonir at AS fwy na 12 mis ar ôl i chi sylweddoli bod gennych reswm dros gwyno. Fodd bynnag, mae’n bosib bod gennych resymau da dros beidio â chwyno'n gynt, felly, da chi, cysylltwch â ni. Rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed gennych ac fe ystyriwn a allwn ni helpu ai peidio.
Carem gysylltu â chi i drafod eich cwyn. Sut fyddai orau i ni gysylltu â chi? (er enghraifft, dros y ffôn; e-bost; llythyr) Rhowch wybod i ni os oes unrhyw ddiwrnod, amser neu ddyddiad pan fyddai’n well gennych i ni beidio â chysylltu â chi. Os byddwch chi’n cwyno ar ran rhywun arall, holwch a fydden nhw’n fodlon i ni gael eu manylion cysylltu.
Cyrff y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwasanaethau dan y Cod
- Y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
- Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
- Panel Apêl Iawndal Anafiadau Troseddol
- Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
- Unedau Gofal Tystion gan yr Heddlu/Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y cyd
- Yr holl heddluoedd dros ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr, Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn
- Timau Troseddau Ieuenctid
Sut i gysylltu â ni:
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i gwyno neu am gael gwybod mwy am sut y gall yr Ombwdsmon fod o help, cysylltwch:
rhif ffôn: 0845 015 4033
e-bost: phso-enquiries@ombudsman.org.uk
Brig
<< Blaenorol / Nesaf >>
|