|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Beth allwn ni ei wneud i unioni pethau?
Pan fyddwn yn ymchwilio i gwynion, rydym yn edrych ar ddwy ochr y ddadl. Rydym yn ceisio datrys y gŵyn mewn ffordd sy'n deg ac yn gyson i bawb sy’n gysylltiedig.
Os canfyddwn fod rhywbeth wedi mynd o chwith, byddwn yn cael y sefydliad i:
- Esbonio beth aeth o'i le a chydnabod hynny
- Gweithredu i unioni’r mater, gan gynnwys ymddiheuro i chi
Os canfyddwn feiau difrifol, gallwn hefyd argymell y canlynol:
- Bod newidiadau’n cael eu gwneud i'r ffordd y mae'r sefydliad yn gweithio fel nad yw'r un pethau’n digwydd eto
- Bod gwersi’n cael eu dysgu o bethau sydd wedi mynd o'i le
- Bod taliad yn cael ei roi am golled ariannol neu am yr anhwylustod neu’r poen meddwl yr ydych wedi’i ddioddef.
Er nad oes gennym bŵer ffurfiol i orfodi ein hargymhellion, fe’u derbynnir bron bob tro.
<< Blaenorol / Nesaf >>
|