|
Hafan > All yr Ombwdsmon eich helpu chi? > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn > Ar beth y gallwn edrych?
Gallwn ymchwilio i gwynion am adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth ac amrywiaeth o gyrff cyhoeddus eraill yn y DU.
Os ydych wedi dioddef oherwydd i chi dderbyn gwasanaeth gwael neu heb gael eich trin yn briodol nac yn deg - a'r sefydliad heb unioni’r sefyllfa lle gallai fod wedi gwneud – efallai y gallwn eich helpu.
Cyn cysylltu â ni, dylech geisio cwyno wrth y sefydliad perthnasol. Ar ôl gwneud hyn, os nad ydych yn cael ateb boddhaol gan y sefydliad neu os nad ydych wedi cael ymateb, gofynnwch i’ch AS anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon.
Dyma enghreifftiau o’r mathau o gwynion y gallwn ymchwilio iddynt:
- Methu â darparu gwasanaeth
- Oedi y gellid bod wedi’i osgoi
- Gweithdrefnau gwallus, neu fethu â dilyn gweithdrefnau cywir
- Peidio â dweud wrthych am unrhyw hawliau apelio sydd gennych
- Annhegwch, tueddiad (bias) neu ragfarn
- Rhoi cyngor sy’n gamarweiniol neu'n annigonol
- Gwrthod ateb cwestiynau rhesymol
- Anghwrteisi a methu ag ymddiheuro am gamgymeriadau
- Camgymeriadau wrth drafod eich hawliadau
- Peidio ag unioni pethau pan fo rhywbeth wedi mynd o chwith
- Gall yr Ombwdsmon hefyd weithio ar y cyd gyda’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol mewn achosion addas lle gall cwynion fod yn berthnasol i awdurdodaeth mwy nag un Ombwdsmon. Mae taflen wybodaeth ar gael yma
Beth na allwn ymchwilio iddynt?
Cyn cwyno, dylech wybod fod yna rai pethau na allwn ni ymchwilio iddynt, megis cwynion am bolisïau’r llywodraeth neu gynnwys deddfwriaeth. (Y Llywodraeth sy’n gwneud penderfyniadau am bolisïau a'r Senedd sy'n penderfynu ar y gyfraith)
Mewn rhai achosion, ni allwn ymchwilio i gwynion gan nad oes gennym y pŵer cyfreithiol i wneud hynny, er enghraifft, allwn ni ddim edrych ar y canlynol:
- Penderfyniadau barnwyr neu faterion sy'n ymwneud â diogelwch gwladol
- Materion staff – megis recriwtio, cyflogau a disgyblaeth
- Y rhan fwyaf o faterion masnachol neu gytundebol
Os nad ydych yn siŵr a allwn eich helpu ai peidio, ffoniwch ein Llinell Gymorth.
Mewn achosion eraill, efallai fod yna sefydliad arall sy'n fwy addas i ddelio gyda'ch cwyn, er enghraifft ar gyfer rhai cwynion efallai mai’r unig ffordd a'r ffordd orau o gael y boddhad yr ydych yn chwilio amdano yw trwy fynd i lys neu dribiwnlys.
Awgrymwn eich bod yn ffonio ein Llinell Gymorth ar 0845 015 4033 i weld a allwn ni helpu gyda'ch cwyn ac am gyngor i lenwi’ch ffurflen.
Brig
<< Blaenorol / Nesaf >>
|