|
Hafan > Cwyno > Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth - Gwneud eich cwyn
Bydd y tudalennau gwe hyn yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi er mwyn eich helpu trwy’r broses gwyno.
Gall yr Ombwdsmon Seneddol gynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion am adrannau'r llywodraeth, asiantaethau a rhai cyrff cyhoeddus. Os ydych wedi derbyn gwasanaeth gwael neu heb gael eich trin yn briodol nac yn deg - a'r sefydliad heb unioni’r sefyllfa lle gallai fod wedi gwneud – gallwn ni helpu.
Er mwyn canfod a yw’r sefydliad yr ydych am gwyno yn ei gylch yn un y gallwn ni edrych arno, edrychwch yn y rhestr yma. Os nad yw ar y rhestr, ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0845 015 4033 am gyngor.
Sut yr ydym yn gweithio
Ar beth y gallwn edrych?
Beth allwn ni ei wneud i unioni pethau
Sut i gwyno
Sut byddwn yn delio â’ch cwyn
Llenwch ffurflen gwyno
Gallwn ddarparu cymorth arbennig os ydych yn cael trafferth defnyddio’n gwasanaeth. Er enghraifft: os oes gennych anabledd, os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, os oes angen cyfieithydd arnoch neu os oes angen help arnoch i lenwi’ch ffurflen gwyno.
Rydym hefyd yn llunio taflenni sy’n esbonio ein gwasanaethau mewn nifer o ieithoedd a gallwn ddarparu llythyrau ac adroddiadau mewn print bras, Braille, ar dâp ac mewn amrywiaeth o fformatau eraill.
Rydym hefyd wedi llunio arweiniad i wneud cwyn erbyn y GIG, un o asiantaethau neu adrannau’r llywodraeth sy’n cynnwys cyngor cyffredinol am sut i gwyno yn effeithiol a chyda lwc bydd yn help i’ch cwyn gael ei datrys yn fuan.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein gwasanaethau, neu help i lenwi’ch ffurflen, cysylltwch â’n Llinell Gymorth ar 0845 015 4033.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8:30am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Neu gallwch ysgrifennu atom neu anfon neges e-bost atom yn phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Brig
|