|
Hafan > Newyddion SOSGI
22 Awst 2008
Ym mis Ebrill 2009, bydd system cwynion integredig dau gam newydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer delio â chwynion am y GIG a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr. Y nod yw darparu dull mwy ymatebol, effeithiol ac amserol ar gyfer delio â chwynion, er mwyn gwella’r gwasanaeth ar gyfer y rheini sy’n cwyno. Bydd yn golygu y gallai cwynion am y GIG na chânt eu datrys yn dilyn datrysiad lleol gael eu cyfeirio yn uniongyrchol at yr Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd (a/neu’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn achos cwynion iechyd a gofal cymdeithasol integredig).
Er mis Ebrill 2008 mae nifer o fudiadau iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn cymryd rhan mewn ‘Rhaglen Mabwysiadwr Cynnar’ wedi’i rhedeg gan yr Adran Iechyd i dreialu’r system newydd. Fel rhan o’r rhaglen hon, bydd y Mabwysiadwyr Cynnar, o fis Awst 2008 ymlaen, yn treialu’r dull dau gam ar gyfer delio â chwynion: mae hyn yn golygu os bydd y gŵyn yn dal heb ei datrys ar ôl cwblhau datrysiad lleol, gall y sawl sy’n cwyno ddewis ei chyfeirio at yr Ombwdsmon yn uniongyrchol. Mae rhagor o wybodaeth am y system cwynion newydd – a’r Rhaglen Mabwysiadwr Cynnar – ar gael ar wefan yr Adran Iechyd (mae’r ddolen yn agor ffenestr newydd). Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch a fydd y Rhaglen Mabwysiadwr Cynnar yn effeithio ar eich cwyn chi a sut, cysylltwch â ni ar 0845 015 4033.
Yn ôl i'r bri
17 Gorffennaf 2008
Mewn adroddiad a gyflwynwyd gerbron dau Dŷ’r Senedd, mae Ann Abraham, yr Ombwdsmon Seneddol, wedi galw ar y Llywodraeth i ymddiheuro i ddeiliaid polisi Equitable Life a sefydlu ac ariannu cynllun iawndal ar gyfer y deiliaid polisi hynny.
Yn ei hadroddiad Equitable Life: degawd o fethiant rheoleiddio (HC 815), mae’r Ombwdsmon yn enwi deg achos o gamweinyddu ar ran yr hen Adran Masnach a Diwydiant, Adran Actwari’r Llywodraeth, a’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mewn perthynas â’u gwaith o reoleiddio Equitable yn y cyfnod cyn 1 Rhagfyr 2001.
Yn ogystal â chadarnhau nifer o gwynion penodol, mae’r Ombwdsmon wedi cadarnhau cwyn gyffredinol am y cyfnod cyn i Equitable gau i fusnes newydd ar 8 Rhagfyr 2000, sef:
...mae’r cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am reoleiddio cwmnïau yswiriant yn ddarbodus...ac Adran Actwari’r Llywodraeth wedi methu ers dros ddegawd ag ymarfer eu swyddogaethau rheoleiddio’n briodol o ran Equitable Life.
Ar ôl canfod bod y camweinyddu wedi arwain at anghyfiawnder, mae’r Ombwdsmon wedi argymell y dylid sefydlu cynllun iawndal i asesu achosion unigol deiliaid polisi presennol a blaenorol Equitable, gyda’r nod o dalu iawndal i wneud iawn am unrhyw golledion ariannol na fyddai pobl wedi’u dioddef pe baent wedi buddsoddi gyda rhywun heblaw Equitable.
Mae’r Ombwdsmon wedi awgrymu y dylid sefydlu cynllun o’r fath o fewn chwe mis i unrhyw benderfyniad gan y Llywodraeth a’r Senedd i wneud hynny, ac unwaith y bydd yn weithredol, y dylai gwblhau ei waith o fewn dwy flynedd. Dylai’r cynllun fod yn annibynnol, yn dryloyw ac yn hawdd ei weinyddu.
Yn ôl i'r bri
15 Gorffennaf 2008
Mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI) yn bwriadu sefydlu Swyddfa ym Manceinion ar gyfer hyd at 150 o staff, a bydd yn lansio ymgyrch recriwtio fawr cyn bo hir. Bydd hyn yn rhan o’r broses a fydd yn arwain at gyflwyno’r system dau gam ar gyfer cwynion GIG ym mis Ebrill 2009.
Caiff amrywiaeth o swyddi yn Llundain (lle mae gan yr Ombwdsmon Swyddfa eisoes) ac ym Manceinion eu hysbysebu yn y wasg genedlaethol, lleol ac arbenigol o fis Medi 2008 ymlaen. Byddant yn cynnwys cyfleoedd i bobl â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad perthnasol i ymuno ag OSGI fel gweithwyr achos, swyddogion gwasanaethau cwsmeriaid, ymgynghorwyr clinigol, rheolwyr a staff cymorth gweinyddol. Bydd proses recriwtio ar wahân ar gael i unrhyw ymgeiswyr sydd mewn swyddi trin cwynion gyda’r Comisiwn Gofal Iechyd ar hyn o bryd.
Dylai pobl â diddordeb mewn gweithio gydag OSGI anfon e-bost atom gyda manylion y mathau o swyddogaethau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Byddwn yn anfon manylion ymgeisio atynt pan gaiff swyddi gwag eu hysbysebu.
Back to top
13 Mehefin 2008
Heddiw, mae Ann Abraham, yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI) yn annog y GIG i wella’r ffordd y mae’n trin cwynion.
Mewn adroddiad newydd – Gwneud Iawn yn y GIG – mae Ms Abraham yn rhoi crynodeb o 12 achos GIG a ymchwiliwyd gan ei Swyddfa’n flaenorol, gan dynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer da a gwael wrth ddelio â chwynion. Mae hi’n dod i’r casgliad bod “yr achosion yn siarad yn bwerus drostynt eu hunain am fuddiannau datrys cwynion yn effeithiol i’r unigolyn ac i’r cyhoedd.” Mae’r achosion, sydd wedi’u hamlinellu yn y cyntaf o gyfres o adroddiadau â’r nod o roi dealltwriaeth glir i achwynwyr a’r GIG o sut bydd yr OSGI yn mynd i’r afael â chwynion, yn ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion. Bydd rhai ohonynt yn canfod methiannau yn y ddarpariaeth gwasanaeth – o gadw cofnodion gwael a chyfathrebu gwael â chleifion, perthnasau a gofalwyr i fethiannau clinigol mwy difrifol ac, mewn un achos, marwolaeth y gellid bod wedi’i hosgoi. Mae rhai eraill yn ymwneud â methiannau o ran trin cwynion
Darllenwch yr adroddiad llawn
Darllenwch y datganiad i’r wasg
16 Mai 2008
Mae Swyddfa’r Ombwdsmon yn gweithio ar brosiect i ddatblygu Egwyddorion Delio â Chwynion yn Dda a byddem yn croesawu eich sylwadau ar yr Egwyddorion drafft fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hyrwyddo delio â chwynion yn dda ymhlith cyrff cyhoeddus yn rhan allweddol o’n gwaith ac mae’r Egwyddorion yn seiliedig ar brofiadau’r Swyddfa hon wrth ystyried delio â chwynion ers dros ddeugain o flynyddoedd.
Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yma
27 Mawrth 2008
Cafodd yr adroddiad ar y cyd cyntaf rhwng yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a’r Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Lloegr ei gyhoeddi heddiw. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau Ombwdsmon gydweithio ar ymchwiliad yn y ffordd hon, gan ddefnyddio pwerau newydd o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio sy’n caniatáu i Ombwdsmyn gydweithredu.
Mae Injustice in residential care: adroddiad ar y cyd gan yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a’r Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Lloegr, yn adrodd ar ein hymchwiliadau i gwynion a wnaethpwyd gan Mr a Mrs Taylor (dim eu henwau go iawn) yn erbyn Cyngor Sir Swydd Buckingham ac Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Iechyd Meddwl Swydd Rhydychen a Swydd Buckingham ynghylch y gofal a gafodd eu mab Frank, dyn ag anawsterau dysgu difrifol. Rydym yn nodi nifer o fethiannau sylweddol o ran lefel y gofal a gafodd Frank a’r ffordd y deliwyd â chwynion Mr a Mrs Taylor. Daethom i’r casgliad bod bai ar y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a oedd wedi achosi effeithiau andwyol i Frank a’i deulu, gan gynnwys pryder a thrallod difrifol a rhywfaint o golled ariannol. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion yr iawn yr ydym wedi’i argymell i’r Cyngor ac i’r Ymddiriedolaeth.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Darllenwch y datganiad i’r wasg yma
Brig
Newyddion archif
|