|
Hafan > Newyddion SOSGI > Newyddion archif
14 Rhagfyr 2007
Mae adroddiad yr Ombwdsmon, Cyflwyno’r gwaharddiad ar fwydo golchion, a gyhoeddwyd heddiw, yn cynnwys canlyniadau fy ymchwiliad i’r gŵyn a wnaethpwyd gan ASU (Associated Swill Users) ar ran ei holl aelodau, yn erbyn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yng nghyswllt cyflwyno’r gwaharddiad ar fwydo golchion, yn dilyn ymddangosiad Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001. Er y dyfarnwyd nad oedd y gŵyn wedi'i chyfiawnhau, roedd lefel y diddordeb yn y pwnc, ac yn arbennig y cyswllt â Chlwy'r Traed a'r Genau, yn golygu ei fod yn bwysig fod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ar gael i’r cyhoedd ei weld.
11 Hydref 2007
Cyhoeddwyd Principles of Remedy ar 11 Hydref 2007, yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd ym Mawrth 2007. Mae adroddiad yr ymgynghoriad i’w weld yma.
Egwyddorion Unioni Cam (pdf)
9 Hydref 2007
Yn ei hail adroddiad arbennig ar gredydau treth, Tax Credits: Getting it wrong?, a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Ombwdsmon Seneddol, Ann Abraham, yn dweud bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gwella’r broses o weinyddu credydau treth yn sylweddol ers ei hadroddiad diwethaf yn 2005, ond bod llawer iawn o waith i’w wneud eto.
Darllenwch yr adroddiad yma
Darllenwch y datganiad i’r wasg yma
1 Awst 2007
Heddiw, rhoddwyd pwerau newydd i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd a’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol, a fydd yn gwella ac yn symleiddio’r ffordd y maent yn gweithio gyda’i gilydd ar gwynion sy’n croesi’r ffiniau rhwng eu hawdurdodaethau.
Golyga Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio newydd y gall Ombwdsmyn, am y tro cyntaf, rannu gwybodaeth, cynnal ymchwiliadau ar y cyd a chyhoeddi adroddiadau ar y cyd am achosion sy’n berthnasol i fwy nag un ohonynt.
Darllenwch y datganiad i’r wasg here
Darllenwch y ddalen ffeithiau yma (pdf)
19 Gorffenaf 2007
Mae ein Hadroddiad Blynyddol Rhoi egwyddorion ar waith ar gael ar-lein. Ynddo, mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, Ann Abraham, yn galw ar i gyrff cyhoeddus sicrhau bod y cwsmer yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus, gan ddefnyddio ei chwe Egwyddor Gweinyddiaeth Dda yn ganllaw.
Lansiodd yr Ombwdsmon yr Egwyddorion ym mis Mawrth. Maent yn “ddatganiadau cyffredinol o’r hyn yr wyf yn meddwl y dylai cyrff dan fy awdurdodaeth fod yn ei wneud i ddarparu gwasanaeth o safon i gwsmeriaid.”
Adroddodd yr Ombwdsmon ar 2,502 o ymchwiliadau yn ystod y flwyddyn yn diweddu 30 Mawrth 2007, ac roedd 1,363 ohonynt yn berthnasol i adrannau’r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus ac 1,139 yn berthnasol i’r gwasanaethau iechyd. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at achosion lle cafwyd arweiniad dryslyd neu wybodaeth annigonol gan adrannau, lle achoswyd anghyfiawnder oherwydd oedi, a lle cafwyd gwallau cyson ac ymdriniaeth wael â chwynion.
Gweld adroddiadau blynyddol
20 Mehefin 2007
Rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect i ddatblygu Egwyddorion Unioni Cam. Daeth yr ymgynghori ynghylch yr Egwyddorion Unioni Cam drafft i ben ar 19 Mehefin. Gellir gweld yr Egwyddorion drafft yr ymgynghorwyd yn eu cylch yma.
Cyhoeddir adroddiad o'r ymatebion i’r ymgynghori a’r Egwyddorion terfynol maes o law. I gael unrhyw wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Lesley Bainsfair, OSGI, Millbank Tower, Llundain, SW1P 4QP, neu anfonwch e-bost at Lesley.bainsfair@ombudsman.org.uk
27 Mawrth 2007
Cyhoeddwyd Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda ar 27 Mawrth 2007, yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd ddiwedd 2006. Gellir gweld yr adroddiad ar yr ymgynghoriad yma.
27 Mawrth 2007
Yr ydym wedi bod yn gweithio ar brosiect i ddatblygu Egwyddorion Unioni Cam a byddem yn croesawu cael eich barn ar yr Egwyddorion drafft sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd. Deillia'r gwaith ar y broses unioni cam o’n Hegwyddorion Gweinyddiaeth Dda a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Egwyddorion hynny a gyhoeddwyd heddiw ac y gellir eu gweld yma.
Mae unioni cam os ceir anghyfiawnder yn agwedd allweddol o’n gwaith ac yr ydym am roi esboniad clir o sut y dylai cyrff cyhoeddus, yn ein barn ni, fynd ati i unioni pethau pan aiff pethau o chwith.
Rydym yn cydnabod bod nifer o ymatebion priodol i gŵyn sydd wedi ei chyfiawnhau a bydd y rhain yn cynnwys atebion ariannol ac anariannol. Mewn rhai achosion, bydd yr ateb yn glir; mewn eraill gall fod yn fater o farn. Ar gyfer cyrff cyhoeddus, deallwn fod cydbwysedd yn aml rhwng bod yn sensitif i anghenion cwsmeriaid a gweithredu’n gymesur o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Ond, ni ellir defnyddio adnoddau cyfyngedig fel esgus dros fethu ag unioni cam mewn ffordd deg a disgwyliwn i gyrff cyhoeddus ddarparu atebion priodol a chymesur o ran unioni cam ar gyfer yr anghyfiawnder neu’r caledi y mae’r achwynydd wedi’i ddioddef.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan Ddydd Mawrth 19 Mehefin 2007.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am yr Egwyddorion drafft neu unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â:
Lesley Bainsfair, PHSO, Millbank Tower, Llundain, SW1P 4QP, neu anfon e-bost at Lesley.bainsfair@ombudsman.org.uk
Gwasanaethau cyhoeddus: yn rhoi pobl yn gyntaf?
Bydd Ann Abraham yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol - Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio mwy ar gwsmeriaid.
Yn y memorandwm a baratowyd ar gyfer y Pwyllgor, bydd yr Ombwdsmon yn sôn am sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddysgu gwersi gan gyrff sydd y tu allan i’r sector cyhoeddus, egwyddor safonau gwasanaeth gofynnol, mesur boddhad cwsmeriaid, beth yw’r arferion gorau, sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hwylus a chynnwys defnyddwyr.
Rhoddir pwyslais penodol ar yr egwyddorion sy’n sail i ymdrin â chwynion, am wasanaeth yr OSGC ei hun, yn ogystal â thynnu sylw at enghreifftiau o gyrff cyhoeddus yn cydweithio’n adeiladol gyda’r OSGC i wella’r gwasanaeth a ddarperir ar gyfer dinasyddion.
Mae’r memorandwm a baratowyd ar gyfer y Pwyllgor ar gael yma
Ymgynghori ynghylch Egwyddorion Gweinyddu Da
Mae’r OSGC wedi bod yn gweithio ar brosiect i ddatblygu Egwyddorion Gweinyddu Da. Daeth yr ymgynghori ar y ddogfen ddrafft i ben ar 12 Ionawr 2007. Rydym bellach yn llunio fersiwn derfynol yr Egwyddorion gyda’r nod o gyhoeddi’r ddogfen yn ddiweddarach eleni.
Nodir ein rhesymau dros fynd i’r afael â’r prosiect hwn isod ynghyd â’r Egwyddorion drafft eu hunain. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y prosiect, anfonwch nhw at Lesley Bainsfair dros yr e-bost.
Ymgymerwyd â’r prosiect am ein bod yn awyddus i fod yn agored ag yn glir gyda’r achwynwyr a’r cyrff dan ein hawdurdodaeth am y profion y byddwn yn eu defnyddio wrth benderfynu ynghylch camweinyddu a methiant yn y gwasanaeth, er mwyn i gyrff dan ein hawdurdodaeth ddeall sut y bydd y Swyddfa’n mynd ati i ddelio â chwynion; ac er mwyn i achwynwyr ddeall sut y bydd eu hachosion yn cael eu hystyried.
Roeddem yn awyddus i wneud hyn mewn ffordd gadarnhaol ac felly datganiadau cyffredinol yw’r Egwyddorion o’r hyn y mae'r Ombwdsmon yn meddwl y dylai cyrff dan ein hawdurdodaeth fod yn ei wneud er mwyn gweinyddu'n dda a darparu gwasanaeth da i'w cwsmeriaid Ni fwriedir i neb ddefnyddio’r Egwyddorion fel rhestr wirio ac nid y rhain ychwaith fydd yr unig ffordd y bydd yr Ombwdsmon yn asesu achosion unigol ac yn penderfynu yn eu cylch oherwydd bydd yn dal i ystyried achosion yn eu cyfanrwydd. Ni fydd methu â chadw at un egwyddor benodol yn golygu o anghenraid bod camweinyddu wedi digwydd. Rhesymoldeb fydd y prawf nid perffeithrwydd.
Ceir tair rhan i’r ddogfen: Cyflwyniad i'r Egwyddorion, y chwech egwyddor eu hunain a’r testun sy’n gefn iddynt. Gobeithio y bydd yr Egwyddorion terfynol yn gyfraniad adeiladol drwy helpu i lunio dealltwriaeth gyffredin o'r hyn sy'n arfer da ym maes gweinyddu cyhoeddus a hefyd drwy helpu cyrff cyhoeddus i asesu eu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Egwyddorion Gweinyddu Da - Drafft (html)
Egwyddorion Gweinyddu Da - Drafft (Word)
Datganiadau i’r wasg
30 Gorffennaf 2006
Mae’r PDWG yn beirniadu’r llywodraeth am yr addewid pensiynau – ac yn rhybuddio am fygythiad cyfansoddiadol i’r Ombwdsmon
Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 30ain Gorffennaf 2006, ‘Yr Ombwdsmon Dan Sylw: Adroddiad yr Ombwdsmon ar bensiynau a’i oblygiadau cyfansoddiadol’ (HC 1081), mae’r Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus yn beirniadu’r llywodraeth am dorri un o’r ‘addewidion pensiynau’ a methu ag ymateb yn briodol i adroddiad yr Ombwdsmon ar y mater.
Cyhoeddodd yr Ombwdsmon ei hadroddiad Ymddiried yn yr Addewid Pensiynau: Cyrff y llywodraeth a diogelwch pensiynau cyflog-terfynol galwedigaethol, ym mis Mawrth 2006.
Gwrthododd y Llywodraeth y canfyddiad o gamweinyddu a’i hargymhelliad y dylai’r Llywodraeth ystyried a ddylai drefnu bod pensiynau llawn y rhai yr effeithiwyd arnynt yn cael eu hadfer, y naill a’r llall.
Cyswllt ag adroddiad PDWG. (www)
Carcharorion sifil yn y dwyrain pell: adroddiad a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn datgelu diffygion yng ngweithrediad y cynllun ex-gratia.
Mae’r adroddiad ar yr ymchwiliad i’r problemau a brofodd cynllun y Weinyddiaeth Amddiffyn i roi iawndal i garcharorion sifil yn y dwyrain pell yn cael ei gyhoeddi heddiw. Gwneir y datganiad ysgrifenedig hwn gan Tom Watson, y Gweinidog dros Gyn-filwyr.
Adroddiad terfynol.doc
Atodiad A Adroddiad terfynol – cronoleg.doc
Atodiad B Adroddiad terfynol – dadansoddiad.doc
Darllenwch adroddiad yr Ombwdsmon, Dyled o Anrhydedd
Brig
13 Gorffennaf 2006
Yr Ombwdsmon yn galw am ymateb mwy cadarnhaol gan y llywodraeth i’w hadroddiadau
Heddiw mae Ann Abraham, yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, yn beirniadu nifer o adrannau’r llywodraeth am arddel agwedd negyddol ac amddiffynnol tuag at ei hymchwiliadau. Yn ei hadroddiad blynyddol 2005-06, Gwneud Gwahaniaeth, mae Ms Abraham yn canu clodydd rhai adrannau eraill am ymwneud â’i gwaith yn gadarnhaol, a dywed y gall y llywodraeth ddefnyddio ei hymchwiliadau i gamweinyddu fel “lifer pwerus ar gyfer diwygio”.
Cyflwynodd Ms Abraham adroddiad heddiw am y 3,606 o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan ei swyddfa yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mawrth 2006. Mwy >>
Brig
Ebrill 2006
Ffordd newydd o drin cwynion sy’n ymwneud â chredydau treth
O 1 Ebrill 2006 ymlaen, yr unig gwynion yn erbyn Swyddfa Credyd Treth Cyllid a Thollau EM y bydd yr Ombwdsmon Seneddol yn ymchwilio iddynt fydd achosion sydd naill ai wedi dilyn trefn gwyno'r Adran i'w phen draw, achosion sy'n codi materion newydd y teimlwn fod angen eu harchwilio, neu achosion lle byddai eu cyfeirio at y Swyddfa Credyd Treth a/neu Swyddfa’r Dyfarnydd yn amhriodol. Bydd pob achos arall a dderbynnir ar ôl 1 Ebrill 2006 yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Swyddfeydd hynny er mwyn iddynt ymchwilio iddynt a cheisio’u datrys. I gael mwy o wybodaeth am y drefn newydd a’r rhesymau drosti, darllenwch yr esboniad isod.
Brig
|