|
Hafan > Dowch i weithio i ni > Dod yn ymchwilydd
Dod yn ymchwilydd
Mae gan ein hymchwilwyr rôl allweddol yn ein gwaith, yn dadansoddi cwynion am adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth, ac am y GIG. Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â ni gan ein bod yn canolbwyntio ar wella’n gwasanaeth i’n cwsmeriaid.
Mae rôl yr ymchwilydd yn rhoi cyfle unigryw i wneud newid gwirioneddol er gwell mewn gwasanaethau cyhoeddus. Pan fyddwch yn canfod anghyfiawnder, bydd canlyniadau eich ymchwiliad yn arwain at wneud argymhellion ar gyfer gwella i sefydliadau sydd yn dod yn fwy a mwy awyddus i wrando ac sydd am wella’u gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am bobl gyda’r lefel uchaf o allu dadansoddol i archwilio ac asesu gwybodaeth gymhleth, ac sy’n meddu ar farn dda i ddod i gasgliadau teg, cyfiawn a phriodol. Bydd angen sgiliau rhyngbersonol ardderchog arnoch ac ymrwymiad i roi sylw i'r cwsmer er mwyn delio'n gydymdeimladol ac eto'n ddiduedd ag achwynwyr, a chydgysylltu ag ASau, cyrff llywodraethol ac ymarferwyr iechyd. Mae sgiliau drafftio ar lefel uchel yn allweddol hefyd er mwyn llunio adroddiadau ar ôl ymchwiliad.
Still interested?
We are not currently recruiting for Caseworkers at the moment but you can find
out more information about the role by visiting our Caseworker micro site at www.makeadifferenceatphso.org.uk.
Brig
|