| |
Hafan > Dowch i weithio i ni > Ymgynghorwyr Clinigol
Mae Ymgynghorwyr Clinigol yn cefnogi ein hymchwiliadau drwy ddarparu cyngor proffesiynol arbenigol i staff yr ymchwiliad ynglŷn â materion meddygol a fynegir mewn cwynion a wneir yn Lloegr. Rydym hefyd yn darparu cyngor clinigol i’r Ombwdsmon yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r Ymgynghorwyr yn hyrwyddo ein hamcanion strategol allweddol, sef Ansawdd, Effeithlonrwydd a Dylanwad, drwy ddatblygu dulliau o rannu dysgu gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd ehangach, gyda’r nod o wella ymarfer clinigol a gwella gofal i gleifion.
Bydd cyfrifoldebau allweddol nodweddiadol yn cynnwys:
- Asesiad cychwynnol o gwynion pan y’u derbynnir.
- Adolygu achosion yn fanwl, neu roi cyngor penodol am agweddau ar ofal clinigol.
- Penderfyniadau sy’n ymwneud â’r angen am arbenigedd broffesiynol ychwanegol, allanol, a’i sicrhau.
- Sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gyfer y canfyddiadau, y casgliadau a’r argymhellion a gynhwysir mewn adroddiadau ymchwiliadau, a’u bod yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o’r materion clinigol.
Rydym yn cyflogi Ymgynghorwyr Clinigol ar gontractau cyfnod penodol neu ar secondiadau.
Still interested?
We are not currently recruiting for Clinical Advisers at the moment but you can find out more information about the role by visiting our Clinical Adviser micro site at www.makeadifferenceatphso.org.uk, where you can also register an interest to be notified for future vacancies
Brig
|
 |